Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 14 Chwefror 2018.
Gwyddom eisoes fod awdurdodau lleol yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd gorfodi rheoliadau ar siopau anifeiliaid anwes a bridwyr cŵn, ac felly efallai fod cyfle i Gymru arwain drwy ddatblygu system drwyddedu a chofrestru bwrpasol ar gyfer unrhyw un sy'n bridio neu'n gwerthu anifeiliaid, a fyddai'n cynnwys yr holl werthwyr, o siopau anifeiliaid anwes i fridwyr ar-lein. Felly, pan fyddwch yn gwneud y datganiad hwn yn ystod yr wythnosau nesaf, a wnewch chi ymrwymo i feddwl o ddifrif am rinweddau system gofrestru a thrwyddedu bwrpasol ar gyfer bridwyr a gwerthwyr anifeiliaid anwes yng Nghymru?