Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch, Lywydd. Mae pysgodfeydd mewndirol a physgota dŵr croyw yn rhan bwysig o'r economi wledig. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi amcangyfrif bod oddeutu 1,500 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu'n uniongyrchol arnynt. Er bod pob un ohonom yn bryderus ynglŷn â niferoedd eogiaid a sewin yn ein hafonydd yng Nghymru, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf beth yw ei barn ynglŷn â chynigion Cyfoeth Naturiol Cymru i roi polisi dal a rhyddhau gorfodol ar waith am 10 mlynedd, yn ogystal â chyflwyno gwaharddiad cyffredinol ar enweirwyr rhag mynd ag unrhyw eogiaid y maent yn eu dal adref i’w bwyta. Mae'r gymuned enweirio yn bryderus iawn am hyn oherwydd, yn amlwg, mae dal pysgodyn a mynd ag ef adref yn rhan annatod o bysgota i lawer iawn o enweirwyr, ac yn rhan o fwynhad y gamp. Pe bai hyn yn arwain at rwystro pobl rhag dod i Gymru, yn enwedig i fwynhau pysgota yn ein hafonydd, mae’n bosibl y gallai hynny niweidio twristiaeth yng nghefn gwlad hefyd.