Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl yr ystadegau diweddaraf, dim ond 5 y cant o gig oen Cymru sy'n cael ei fwyta yng Nghymru. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu cig oen Cymru yng Nghymru a'r DU yn ehangach?