Y Sector Bwyd-amaeth yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:03, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Mae cyfleoedd sylweddol ar gael i'r sector bwyd-amaeth yng ngogledd Cymru, gan gynnwys gwell cydweithio o ran y gadwyn gyflenwi a gwelliannau effeithlonrwydd cysylltiedig. Yn wir, mae brand Cymru yn cynrychioli cynnyrch ffres o’r safon uchaf ag iddo flas gwych, ansawdd glaswelltir Cymru, traddodiad y fferm deuluol, ymrwymiad pawb yn y gadwyn gyflenwi a lleoliad y lladd-dai a chyfleusterau prosesu yn agos at y mannau cynhyrchu. Pa gyfarfodydd a faint o gyfarfodydd rydych wedi'u cael gyda chynrychiolwyr proseswyr a manwerthwyr yn ogystal â ffermwyr, o ystyried pwysigrwydd ymgysylltu â gweithredwyr ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi mewn perthynas â'r materion hyn?