Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 14 Chwefror 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae trafodaethau rhynglywodraethol yn amlwg yn hanfodol os ydym yn dymuno sicrhau'r fargen orau i Gymru, yn arbennig ar gyfer diwydiant. Fe fyddwch yn gwybod bod fy etholaeth i’n gartref i ardal fenter Glannau Dyfrdwy, ac yn gartref i lawer o gwmnïau, gan gynnwys Airbus a Toyota. Mae fy etholwyr yn dibynnu ar nifer o gwmnïau fel hyn, a rhai fel Tata Steel, am eu bywoliaeth a bywoliaeth eu plant. Gan fy mod wedi gweithio ar ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, rwyf innau’n gwybod pa mor bwysig yw hyn hefyd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd i mi fod y Llywodraeth hon yn gwneud pob ymdrech i wneud yn siŵr fod Llywodraeth y DU yn sicrhau'r fargen orau ar gyfer fy ardal a'r diwydiannau rydym yn dibynnu arnynt?