Perthynas Cymru gyda'r UE yn y Dyfodol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:19, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae cyfarfodydd diweddar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar negodiadau’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn fwy adeiladol nag o'r blaen. Fodd bynnag, mae'r mecanweithiau'n ddiffygiol o hyd o ran eu cynllun a’u cyflawniad. Mae angen cymryd camau pellach i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried wrth lunio unrhyw berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.