Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 14 Chwefror 2018.
Lywydd, ni fydd angen unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer cyfnod y gyllideb y mae'r cynlluniau cyfalaf wedi'u nodi ynddynt, ac ni fydd unrhyw arian yn cael ei ddyrannu hyd nes y cawn ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol.