Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 14 Chwefror 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n cefnogi'r fargen ddinesig yn frwd, ac rwy'n credu y bydd budd gwirioneddol, nid yn unig yn yr 11 o brosiectau sydd wedi'u dewis i’w datblygu, ond yn yr hinsawdd economaidd y bydd y seilwaith yn ei chreu, a'r llu o brosiectau bach a phrosiectau amgen a all ddeillio ohoni.
Yn Sir Benfro, mae prosiect morol Doc Penfro wedi cael ei gynnig fel prosiect allweddol. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, mae mewnbwn y fargen ddinesig oddeutu £28 miliwn, gyda £24 miliwn yn dod o gronfeydd cyhoeddus eraill, a £24 miliwn arall o'r sector preifat. Ond os gwelwch yn dda, a wnewch chi gadarnhau i mi pa sefydliadau a fydd yn gyfrifol am dalu llog y benthyciadau hynny?