Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 14 Chwefror 2018.
Yn naturiol, fel rŷch chi'n gwybod, fel rhan o'r fargen ddinesig, mae buddsoddiad y sector gyhoeddus, wrth gwrs, yn allweddol er mwyn sicrhau bod y seilwaith angenrheidiol ar gael, a bod y prosiectau unigol, fel rydym ni wedi clywed, yn cael y cyfle gorau i lwyddo. Ar ôl dweud hynny, mae pawb yn ymwybodol bod buddsoddiad y sector breifat yn mynd i fod yn hollbwysig i lwyddiant y fargen ddinesig. Heb hyn, bydd y peth yn methu yn gyfan gwbl.
Felly, yn dilyn eich trafodaethau mwyaf diweddar, a allaf i ofyn pa mor ffyddiog ydych chi ar hyn o bryd fod y fargen ddinesig yn mynd i ddelifro'r buddsoddiad preifat angenrheidiol, a beth ydych chi'n gwneud fel Llywodraeth i gefnogi'r cynghorau lleol yma i gyrraedd y nod?