Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 14 Chwefror 2018.
Rwy'n hapus iawn i roi sicrwydd i'r Aelod fod y £125.4 miliwn a roesom ar y bwrdd i gwblhau’r fargen yn dal i fod ar gael. Rwy'n ymrwymedig iawn, fel y dywedais wrth Angela Burns, i wneud popeth a allwn i helpu'r fargen i symud i'r cam nesaf fel y gellir rhoi'r arian sydd ar gael ar waith i gefnogi'r ymrwymiad y gwn ei fod yno ymhlith y boblogaeth leol i sicrhau bod y fargen hon yn llwyddiant.