Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 14 Chwefror 2018.
Weinidog, mae'r achos trasig sydd wedi cael ei amlinellu heddiw, wrth gwrs, yn amlwg yn mynd yn ôl i 2015, cyn adroddiad yr arolwg safonau gofal critigol o wasanaethau plant a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf. A fydd gwaith y bwrdd gwella gwasanaethau plant cyfredol yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad hwn, a pha wersi y credwch eu bod wedi cael eu dysgu yn y cyd-destun ehangach? Ac a gaf fi ofyn hefyd, yng ngoleuni'r adroddiad hwn, a ydych yn credu bod yr awdurdod lleol angen rhagor o gymorth?