Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 14 Chwefror 2018.
A gaf fi gefnogi Simon Thomas yn yr hyn a ddywedodd yn gynharach a chefnogi'r Gweinidog hefyd yn yr hyn y mae newydd ei ddweud ynglŷn â helpu Powys i helpu ei hun? Gwn o drafodaethau gydag ef, os nad yw hynny'n dwyn ffrwyth ymhen amser, y bydd yn rhoi camau llymach ar waith. Tybed a fyddai'n cytuno â mi mai un o nodweddion mwyaf gofidus yr achos hwn fel y mae'n ymddangos yn adroddiad yr adolygiad ymarfer plant yw ei fod yn dweud hyn, ymddangosai mai’r her fwyaf arwyddocaol oedd y symlaf, sef cyfathrebu da a chynllunio cydlynol, yn seiliedig ar ddealltwriaeth drylwyr o brofiadau byw bob dydd Plentyn A ac effaith sylweddol trawma difrifol plentyndod cynnar.
Ymddengys mai methiant i weithio mewn partneriaeth oedd hyn yn bennaf, ac mae'n peri gofid braidd fod gennym yr holl weithwyr proffesiynol hyn sy'n methu cyfathrebu’n effeithiol â’i gilydd, yn ôl pob golwg. Yn yr achos penodol hwn, roedd plentyn A yn huawdl iawn yn dweud wrthynt beth oedd ei anghenion, a’r anhawster oedd nad oedd y gweithwyr proffesiynol yn gallu cyfathrebu hynny ymysg ei gilydd. Nid oes neb yn bychanu anhawster y gwaith y mae’r gweithwyr proffesiynol hyn yn ei wneud, felly nid wyf am danseilio eu hyder neu eu hunan-barch, ond mae gwersi pwysig iawn sy'n rhaid eu dysgu gan bawb yn y gadwyn o awdurdod a arweiniodd at y canlyniad ofnadwy hwn.
Felly, tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym heddiw yn fwy manwl sut y mae'r gwelliant hwn mewn cyfathrebu o fewn yr awdurdod a rhwng gweithwyr proffesiynol gwahanol yn mynd i gael ei gyflawni.