4. Datganiadau 90 Eiliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:32, 14 Chwefror 2018

Rŷm ni'n gwybod bod y diwydiant papurau newydd yn gyffredinol yn crebachu'r dyddiau yma, a bod yna bryder am ddyfodol sawl teitl a bod llawer o bwyslais ar greu gwefannau newyddion hyperleol. Wel, mae yna ddwy ardal yng Nghymru sy'n dal i weld gwerth yn eu papurau lleol wythnosol, a’r rhain yn dangos bod newyddion print hyperleol yn dal i oroesi, ac, yn wir, yn dal i ffynnu. Mae’r Corwen Times a phapur Y Cyfnod, sy’n gwasanaethu ardaloedd Edeirnion a Meirionnydd, wedi dechrau ar gyfnod newydd yn eu hanes yr wythnos diwethaf—hanes sy'n mynd yn ôl i sefydlu Y Cyfnod ym 1934 ac wedyn y Corwen Times a'r Meirioneth Express, yn ôl beth rydw i’n ei ddeall, yn dod i’r amlwg yn y 1950au.

Nawr, mi ddiflannodd teitl y Meirioneth Express yn 2013, wrth i’r tri phapur ddod i ben am gyfnod byr, ond, diolch i waith Mari Williams o Lanuwchllyn y daeth i’r adwy bryd hynny, fe atgyfodwyd y Corwen Times ac Y Cyfnod. Mae hithau, erbyn hyn, newydd drosglwyddo’r awenau i Siân Teleri, merch leol sydd yn gweld angen ond hefyd cyfle i ddatblygu’r papurau ymhellach.

Nid oes amheuaeth fod y Corwen Times ac Y Cyfnod yn cynnig gwasanaeth o bwys yn yr ardaloedd y maen nhw’n mynd i'w gwasanaethu, gyda miloedd o bobl yn eu darllen nhw’n wythnosol, ac yn cael eu cynhyrchu, gyda llaw, heb unrhyw gefnogaeth ariannol gyhoeddus.

Felly, wrth i ni weld y diwydiant newyddion print ar draws Cymru yn crebachu, roeddwn i am gymryd y cyfle i longyfarch Siân Teleri a thîm y Corwen Times ac Y Cyfnod am sicrhau dyfodol i bapur sydd wedi profi ac yn dal i brofi ei fod yn ganolog i’w cymunedau. Rydw i’n siŵr ein bod ni i gyd am ddymuno’r gorau am ddyfodol llewyrchus i’r ddau bapur hynny.