Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch, Lywydd. Daeth ACau o bob plaid ynghyd heddiw mewn digwyddiad a drefnwyd gan Cyswllt Amgylchedd Cymru. Fe'i cynhaliwyd i gefnogi ymgyrch Dangoswch y Cariad.
Rydym yn gwybod am risgiau newid hinsawdd i'r byd o'n cwmpas. Mae wedi effeithio ar ymddygiad, helaethrwydd a dosbarthiad pob math o fflora, ffawna a ffyngau ledled y byd, ond hefyd yma yng Nghymru. Ond nid yw'n rhy hwyr inni wneud gwahaniaeth gwirioneddol a gwarchod Cymru, a gweddill y byd, rhag newid yn yr hinsawdd, gan arsylwi a deall yr arwyddion a rhoi camau unioni ar waith. Mae Dangoswch y Cariad yn rhoi cyfle inni feddwl am y lleoedd, y rhywogaethau a'r cynefinoedd rydym yn eu caru ac yn dymuno'u diogelu. Mae'n ein helpu i ddathlu'r cynnydd sylweddol a wnaethom eisoes, gan roi cyfle inni hefyd ystyried y camau nesaf y gallwn eu cymryd i adeiladu dyfodol glân, diogel a chynaliadwy. Mae'r rheini ohonom sy'n hyrwyddwyr rhywogaethau wedi cael calonnau gwyrdd i'w gwisgo fel symbolau'r ymgyrch—arwyddlun addas iawn ar ddydd Sant Ffolant o bob diwrnod. Diolch i'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar am eu llunio. Byddaf yn gwisgo fy un i gyda balchder fel hyrwyddwr rhywogaeth y troellwr mawr a hefyd i'n hatgoffa o effaith newid yn yr hinsawdd a'r rôl y gallaf fi a phob un ohonom ei chwarae i fynd i'r afael â hynny.