5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:31, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Aelodau ar draws y Siambr am eu cyfraniadau a'r cyfle i ymateb i'r ddadl ddiddorol a llawn gwybodaeth hon heb unrhyw anghytuno â'r safbwynt canolog fod angen datrys problem yng Nghymru. Nawr, yn gyntaf, wrth gwrs, mae angen i mi fod yn gwbl glir mai ni fel Llywodraeth sy'n gyfrifol am y traffyrdd a'r cefnffyrdd yng Nghymru. Nid oes gennym awdurdodaeth dros ffyrdd lleol neu ffyrdd heb eu mabwysiadu. Ond rwy'n cydymdeimlo'n fawr iawn â'r bobl sydd mewn sefyllfa o fod wedi prynu cartref newydd, ac yna'n dod i ddeall bod y ffordd y tu allan mewn cyflwr heb ei fabwysiadu, a chredaf y gallwn i gyd gytuno bod hyn yn annerbyniol.

Rwyf innau'n byw ar ystâd yr eir iddi ar ffordd heb ei mabwysiadu, ac rydym wedi sefydlu cwmni rheoli fel trigolion, fel cymdogion. Ond am y rhesymau a amlinellodd Dai Lloyd, ychydig o bobl sy'n gallu fforddio hyn, neu nid yw'n ateb addas. Prysuraf i ychwanegu nad oes neb o fy nghwmni rheoli wedi dweud wrthyf am wneud rhywbeth â fy mywyd am mai cwmni dan reolaeth y preswylwyr ydyw. Rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy syfrdanu'n llwyr gan rai o'r straeon a glywais heddiw am y ffordd y mae etholwyr Aelodau yn y Siambr hon wedi cael eu trin.

Ddirprwy Lywydd, mae gennyf nodiadau helaeth y dylwn fod yn darllen drwyddynt efallai ynglŷn â hawliau perchnogion tai a thenantiaid, ond a dweud y gwir, credaf ei bod hi'n werth mynd at wraidd y mater, oherwydd mae'r broblem sy'n gysylltiedig â ffyrdd heb eu mabwysiadu yn fater lleol a chenedlaethol. Yn fy marn i, mae felly'n cyfiawnhau ymagwedd genedlaethol er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson ar draws yr holl awdurdodau. Mae dod o hyd i ateb yn galw am fewnbwn gan nifer o chwaraewyr allweddol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i Lywodraeth Cymru, awdurdodau priffyrdd a chynllunio lleol, parciau cenedlaethol, y proffesiwn cyfreithiol, datblygwyr, Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai a chwmnïau morgeisi.

Mae angen ystyried dau faes: mater uniongyrchol dod â ffyrdd heb eu mabwysiadu presennol i safonau mabwysiadwy, ac yna mae angen datblygu ffordd sy'n osgoi gweld y problemau presennol yn cael eu hailadrodd mewn datblygiadau yn y dyfodol. Rwy'n derbyn bod gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig yn y broses o gychwyn y newid hwn, ac felly rwy'n falch iawn o allu hysbysu'r Aelodau heddiw fy mod wedi gofyn i fy swyddogion gael trafodaethau â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ddatblygu tasglu i ddatrys y broblem hon ar draws ein gwlad. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol, byddwn yn adolygu'r sefyllfa bresennol ac yn cyflwyno argymhellion ar sut y gallwn fynd i'r afael â'r problemau i brynwyr a amlinellwyd gan yr Aelodau ar draws y Siambr heddiw, a'u hosgoi yn y dyfodol. Fel y dywedais yn flaenorol mewn perthynas â seilwaith arall yng Nghymru, er nad Llywodraeth Cymru yw achos y broblem, yn sicr gallwn gynnig gwellhad.