Part of QNR – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2018.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau arfaethedig i’r is-ddeddfau ar ddal a rhyddhau eogiaid a sewin. Cafodd y canfyddiadau eu cyflwyno gerbron bwrdd CNC ar 18 Ionawr. Nid ydynt wedi cyflwyno eu cynigion eto. Nes iddynt wneud hynny, does dim modd i mi wneud sylw.