Part of QNR – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2018.
Rwyf wedi codi’r mater ynghylch sicrhau yr un lefel o gyllid ag yr ydym yn ei gael ar hyn o bryd ar gyfer y cronfeydd strwythurol â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig hyd yma wedi rhannu unrhyw fanylion am ei chynigion. Mae ein safbwynt ni ar sicrhau yr un lefel o gyllid ac ymreolaeth wedi’i amlinellu’n glir yn ein papur Buddsoddi Rhanbarthol ar ôl Brexit.