Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch am eich ymateb. Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, ceir rhai mudiadau gydag agwedd gymunedol iawn yn Sir Gaerfyrddin sy'n dibynnu’n fawr iawn ar wirfoddolwyr—sefydliadau o Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr, i Home-Start Sir Gaerfyrddin, cyfeillion ward yn Ysbyty Glangwili, safleoedd achub anifeiliaid, gwirfoddolwyr sy'n ymweld â'r cartref. Ac maent wedi camu i’r adwy, yn enwedig mewn cyfnod fel hwn pan mae llai o arian cyhoeddus ar gael. Beth y gallech chi fel Llywodraeth Cymru ei wneud i annog mwy o bobl i wirfoddoli, nid yn unig er mwyn cynorthwyo'r sefydliadau arbennig hyn, a darparu’r niferoedd a'r breichiau a'r coesau y mae eu hangen arnynt er mwyn gwneud yr hyn a wnânt, ond hefyd gan fod gwirfoddoli mor dda i'r unigolyn sy'n gwirfoddoli? Mae'n gymorth i frwydro yn erbyn rhai o’r problemau rydym yn sôn amdanynt, fel unigedd ac unigrwydd, mae'n dda i'r enaid, ac mae'n dda iawn i'r sefydliadau. A tybed pa gymorth y gallwch ei roi i annog mwy o bobl i wneud gwaith gwirfoddol, yn enwedig pobl iau—ac nid wyf yn golygu pobl yn eu harddegau o reidrwydd, ond pobl 30, 40, 50 oed, lle y ceir bwlch enfawr.