Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 28 Chwefror 2018.
Mae hwn yn fater a godwyd mewn sesiwn holi flaenorol gan yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Ymrwymais bryd hynny i ystyried y materion a godwyd gennych y prynhawn yma. Byddwch yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi cyhoeddi £100,000 ychwanegol i gynyddu capasiti ein gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned, ac mae hefyd wedi ymrwymo i ystyried a deall sut y mae'r gwasanaethau hynny'n cael eu defnyddio ac a oes angen inni gynyddu ein capasiti yn y gwasanaethau hynny. Ond rwy'n derbyn bod y pwynt a godwch yn un dilys a phwysig iawn ac mae'n fater y byddwn yn ei ystyried yn ofalus. Ac os credwn fod angen newid yn y ffordd a ddisgrifiwyd gennych, yna yn sicr, mae honno'n sgwrs y byddaf yn ei chael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, a byddaf yn dychwelyd i'r Siambr i wneud cyhoeddiadau ynglŷn â hynny.