Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gynharach y mis hwn, fe gyhoeddoch chi fod Llywodraeth Cymru yn darparu £30 miliwn i gynghorau yng Nghymru er mwyn gwella cyflwr y ffyrdd yn eu hardaloedd, a chroesawyd hyn gan bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol. Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyllid ac adnoddau, 'Edrychwn ymlaen at barhau i drafod yn adeiladol ac yn agored er mwyn canfod atebion cynaliadwy.' Ysgrifennydd y Cabinet, yn seiliedig ar y fformiwla ddyrannu sefydledig ar gyfer priffyrdd, faint o arian y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Islwyn yn ei dderbyn o'r buddsoddiad o £30 miliwn, a pha gyfleoedd a fydd ar gael yn y dyfodol i Lywodraeth Cymru fuddsoddi'n uniongyrchol yn rhwydwaith ffyrdd Cymru?