Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 28 Chwefror 2018.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant cydraddoldeb i Stonewall Cymru. Mae rhan o'r cyllid hwn yn cefnogi swyddog ymgysylltu trawsrywedd i arwain ar faterion cydraddoldeb trawsryweddol. Maent yn gweithio mewn cymunedau ar lawr gwlad i wrando ar leisiau pobl drawsryweddol a sicrhau eu bod yn ymgysylltu'n llawn â'r gwasanaethau a gynlluniwyd i'w cefnogi.