Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 28 Chwefror 2018.
Arweinydd y tŷ, rwyf wedi cael gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gohirio'r broses o osod band eang cyflym iawn drwy godi ffioedd cynllunio gormodol a rhenti tir am y blychau cyflym iawn. Mae hyn yn peryglu darpariaeth gyflym iawn, nid yn unig yng Nghaerffili, gan gynnwys Islwyn, ond mewn ardaloedd cyfagos yn ogystal. A fyddech yn sicrhau bod Caerffili yn rhoi'r gorau i beryglu darpariaeth band eang cyflym iawn yn y ffordd hon?