Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch. Rydych yn sôn am ddangosyddion cenedlaethol ac fel y gwyddoch, mae'r Ddeddf yn dweud bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi dangosyddion cenedlaethol y gellir eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon. O gofio y bydd trydydd pen blwydd y Cydsyniad Brenhinol ar gyfer y Ddeddf ar 29 Ebrill eleni, a allech roi ychydig mwy o wybodaeth i ni parthed eich safbwynt ar ddangosyddion cenedlaethol? Rydych yn dweud yn ddiweddarach eleni. A allwch ddweud pryd a pha gam rydych wedi'i gyrraedd yn y broses o'u llunio?