Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Llywydd. Nawr, mae sawl person wedi dweud wrthyf i dros y misoedd diwethaf, pan fo sianeli torfol, megis BBC2 yn benodol, yn darlledu gweithgareddau o'r Siambr yma yn fyw ac Aelod yn siarad yn Gymraeg, mae'r ddwy iaith—y Gymraeg a'r cyfieithiad Saesneg—yn cael eu darlledu efo'i gilydd heb unrhyw dawelu ar y naill iaith na'r llall fel bod pobl yn cwyno nad ydynt yn gallu clywed yr un o'r ddwy iaith yn glir, yn enwedig pobl sydd yn hŷn. Felly, a oes modd darbwyllo ein darlledwyr i'w gwneud hi'n hawdd i wrandawyr Cymraeg eu hiaith glywed cyfraniadau yn glir yn y Gymraeg gwreiddiol neu ddarparu o leiaf isdeitlau neu unrhyw ymateb arall sydd ddim yn golygu oriau o waith chwyslyd i'r gwyliwr i aildiwnio ei deledu o'r dechrau unwaith eto? Diolch yn fawr.