Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Chwefror 2018 yw mis hanes LGBT. Mae'r digwyddiad blynyddol pwysig hwn yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar hanes LGBT+, gan nodi pa mor bell rydym wedi dod o ran hyrwyddo hawliau cyfartal ac amrywiaeth, ond hefyd yr heriau a'r rhwystrau sy'n rhaid i ni eu goresgyn o hyd.
Mae'r flwyddyn 2018 yn nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918, felly efallai nad yw'n syndod fod mis hanes LGBT eleni yn edrych ar y rôl a chwaraeodd lesbiaid a menywod deurywiol yn yr ymgyrch i sicrhau'r bleidlais i fenywod. Mae penblwyddi pwysig eraill yn cynnwys y ffaith bod 40 mlynedd ers llofruddio Harvey Milk. Hefyd mae 30 mlynedd ers i'r Llywodraeth Geidwadol ddeddfu o blaid homoffobia ar ffurf adran 28. Mae'r ddau goffâd olaf yn adlewyrchu thema eleni'n briodol, daearyddiaeth—mapio'r byd. Mae hyn yn cynnig cyfle i ddathlu'r cynnydd byd-eang tuag at briodas gyfartal, ond hefyd y cyfle i fyfyrio ar yr erledigaeth y mae pobl LGBT yn ei hwynebu ledled y byd a'r rôl y mae'n rhaid i ni ei chwarae i newid hyn.
Mae digwyddiadau cymunedol yn bwysig hefyd, gan dynnu sylw at y neges hon ar lefel llawr gwlad. Roeddwn yn falch iawn ddydd Sadwrn o siarad yn y digwyddiad hanes LGBT+ cyntaf erioed i gael ei gynnal yn Aberdâr yn Amgueddfa Cwm Cynon wedi'i drefnu gan grŵp lleol, Prosiect Undod. Nodaf fod baner yr enfys hefyd yn dathlu ei phen blwydd yn ddeugain eleni. Felly, gadewch i ni, bob un ohonom, chwifio'r faner dros gydraddoldeb a hawliau LGBT+ yn 2018 a thu hwnt.