Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 28 Chwefror 2018.
Ond mae cyrraedd y nod o ddod yn Senedd wrth gwrs yn galw am fwy na ffocws ar enw a niferoedd, fel y gŵyr pawb ohonom. Dylem fod â'r hyder yn ogystal i brofi'r gweithdrefnau seneddol a ffyrdd o weithio yn erbyn yr enghreifftiau cyfatebol gorau yn unrhyw le yn y byd. Ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom, yn ogystal â mynd i'r afael â'r diwygiadau proffil uchel, i edrych ar y peirianwaith sy'n sail i gamau craffu, herio, deddfu a gweithredu, y cyfeiriodd y pwyllgor atynt yn eu hadroddiad, wrth inni ddod yn Senedd newydd. Os derbyniwn yr heriau hynny, bydd yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i gyfrannu ar sail gyfartal tuag at adeiladu ar y cysylltiadau rhwng Seneddau a Chynulliadau ledled y DU, ac rydym yn cefnogi argymhelliad llawn dychymyg y pwyllgor am gynhadledd y Llefaryddion i ganolbwyntio ar y mater penodol hwnnw.
Fodd bynnag, rwyf am ganolbwyntio ar y berthynas rhwng Llywodraethau. Mae pawb yn cytuno bod cysylltiadau rhynglywodraethol yn bwysig, ond yn rhy aml ystyrir hynny yng nghyd-destun datrys problemau, rheoli anghytundeb, neu faterion sydd angen eu datrys. Mae hwnnw'n rhan hanfodol o'r darlun, ond nid dyna yw'r darlun llawn. Dylai cysylltiadau rhynglywodraethol da hefyd ymwneud â mwy na rheoli ein gwahaniaethau; dylent ymwneud â nodi a mynd i'r afael â'r heriau polisi a rannwn ar draws pedair gweinyddiaeth y DU. Nid oes gan neb fonopoli ar syniadau da neu ddatblygu polisïau da, ac nid oes gan neb yr atebion i gyd. Felly, mae angen i gysylltiadau rhynglywodraethol ymwneud hefyd â rhannu arferion gorau a gweithio gyda'n gilydd lle mae'n gwneud synnwyr i wneud hynny, a bydd hynny'n sicr o fudd i'r bobl a wasanaethwn.
Mae datganoli ei hun, wrth gwrs, wedi cyfrannu'n sylweddol at arloesi o ran polisi ledled y DU, ac nid mater o fabwysiadu pwerau mewn ystyr haniaethol, mewn gwagle, yw hynny. Mae'n ymwneud â defnyddio'r pwerau hynny ar sail egwyddor, ond hefyd ar sail bragmataidd, fel bod y pwerau sydd gennym yn cael eu defnyddio mewn ffordd ymarferol i wella bywydau pobl yng Nghymru. Ac mae hi'r un fath gyda hyn, gyda'r bensaernïaeth gyfansoddiadol, os mynnwch, o ran y modd y mae llywodraethau'n ymwneud â'i gilydd. Nid ymarfer mewn cyfreitha cyfansoddiadol yw hyn, ond datblygu ffordd o weithio a sylfaen egwyddorol sy'n cynorthwyo'r Cynulliad a'r Llywodraeth i ddefnyddio'r pwerau sydd gennym yn y ffordd y teimlwn ei bod yn gweddu orau i Gymru. Roedd hynny ymhlyg yn y sylwadau a wnaeth Mick Antoniw.
Felly, gan droi'n benodol at argymhellion y pwyllgor, cytunwn yn llwyr fod angen i gyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ddechrau cyflawni swyddogaethau'r uwchgynhadledd penaethiaid Llywodraethau flynyddol sef yr hyn y bwriadwyd iddo fod yn wreiddiol. Rydym hefyd yn cytuno bod angen inni ychwanegu pwyllgorau newydd at fformat presennol y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Dyna'n union y galwasom amdano yn ein papur polisi masnach diweddar ychydig wythnosau yn ôl. Ac rydym yn cytuno bod angen ailwampio'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn sylfaenol. Ni chafodd ei ddiweddaru ers 2013, ac mae llawer iawn wedi digwydd ers hynny, fel y gwyddom. Nid yw'n mynd i'r afael ag amgylchiadau newydd Brexit. Byddwn yn pwyso am gytundeb ar gomisiynu archwiliad o hynny yn y cyfarfod llawn nesaf o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Cyfeiriodd Jane Hutt, yn ei sylwadau, at y diffygion sylweddol yn y trefniadau presennol, felly mae angen inni fynd i'r afael â'r rheini.
Felly, rydym yn cytuno y gellir gwneud gwelliannau yn y tymor byr; fodd bynnag, mae'n amlwg na fydd strwythurau presennol y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn gallu dal y pwysau y bydd Brexit yn ei osod arnynt yn y tymor hwy. Felly, rydym yn croesawu galwad y pwyllgor am gyngor Gweinidogion y DU, sy'n adleisio'r argymhellion a nodwyd gennym yn 'Brexit a Datganoli' ar gyfer cyngor Gweinidogion, fel y dywedodd David Melding yn ei gyfraniad, a fyddai'n gallu gwneud penderfyniadau rhwymol gydag ysgrifenyddiaeth annibynnol a mecanwaith dyfarnu annibynnol ar gyfer anghydfodau na ellir eu datrys drwy unrhyw ddull arall.
Rhaid i gyfansoddiad y DU ar ôl Brexit wneud mwy na baglu ymlaen yn y ffordd anghytbwys, ad hoc ac anffurfiol y mae'n ei wneud ar hyn o bryd. Felly, rydym wedi dweud hefyd y dylem edrych ar sut y gellid gosod cysylltiadau rhynglywodraethol ar sail statudol. Wrth gwrs, mae adroddiad y pwyllgor yn nodi ac yn cymeradwyo'r argymhelliad a wnaed gan nifer o bwyllgorau seneddol am sail statudol o'r fath, a chredwn y byddai angen gwaith pellach i weithio drwy oblygiadau hynny, ond yn y bôn rydym yn cytuno ag argymhelliad y pwyllgor.
Yn olaf, o ran argymhelliad 8, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn hapus i drafod cynnwys cytundeb ar gysylltiadau rhynglywodraethol gyda'r pwyllgor. Wrth wneud hynny, byddwn yn dymuno ystyried yn ofalus y cytundeb rhwng Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban y cyfeiria 'r pwyllgor ato yn yr adroddiad.
Rwyf am gloi drwy gydnabod bod ein cynigion yn 'Brexit a Datganoli', a rhai'r pwyllgor yn yr adroddiad rhagorol hwn, yn heriol ac efallai ychydig yn frawychus i Lywodraeth y DU, ond rydym yn troedio tir newydd bellach. Mae'r catalydd cyfansoddiadol y mae Brexit yn ei gynrychioli wedi creu deinameg newydd sy'n mynd i newid y ffordd y rheolir Prydain ymhellach. Yn gyffredinol, mae hanes cyfansoddiadol yr ynysoedd hyn wedi bod yn glytiog, yn hytrach na rhan o weledigaeth gydlynol, a'r dehongliad rhamantaidd o hynny yw ei fod wedi bod yn fuddiol inni. Nid wyf yn siŵr o gwbl fod hynny'n wir.
Mae angen i Lywodraeth y DU gydnabod na all ddal ati i geisio baglu ei ffordd drwy hyn. Mae angen iddi ymrwymo i adolygiad o'r bôn i'r brig a fydd yn gosod ein system o gysylltiadau rhynglywodraethol, a chyfansoddiad y DU ei hun, ar sail gadarn ar gyfer y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i fod yn bartner yn y broses honno o newid, ac mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ychwanegu at y côr o leisiau sy'n galw am adolygiad o'r fath. Gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn dechrau gwrando cyn bo hir a chychwyn ar daith ddiwygio a fydd yn gwella cadernid cyfansoddiadol Cymru, a phob rhan o'r Deyrnas Unedig hefyd.