Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae ein cynnig ni heddiw yn un a fyddai'n rhoi cychwyn ar y daith tuag at ddatganoli darlledu, a'r unig beth rydym ni'n gofyn amdano fo, mewn gwirionedd, ydy ymrwymiad i ymchwilio i ymarferoldeb datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru, gan adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn blwyddyn. Felly, gan fod gwelliannau Llafur yn dileu y gofyn syml hwnnw, mi fyddwn ni'n pleidleisio yn eu herbyn nhw.
Mae Plaid Cymru yn uchelgeisiol dros Gymru ac yn credu y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru—darlledu, yn yr achos sydd gerbron heddiw. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n cydnabod nad ydy pawb wedi cael eu hargyhoeddi, felly heddiw rydym ni'n chwilio am gonsensws i o leiaf ystyried y materion ymhellach dros gyfnod o 12 mis. Ac mi fyddwn i'n bersonol yn siomedig iawn petaem ni ddim yn cael hynny heddiw. Byddai pleidlais yn erbyn ein cynnig ni yn awgrymu bod popeth yn iawn yn y byd darlledu yng Nghymru. Wel, nid ydy o.
Mewn cyfnod o ansicrwydd ac anghydfod oherwydd Brexit, mae datganoli darlledu yn bwysicach nac erioed er mwyn sicrhau bod gan Gymru lais. Mae cyfuniad o ddiffyg amrywiaeth yng nghyfryngau Cymru a dirywiad mewn oriau darlledu yn rhwystro dadleuon gwleidyddol, ac felly yn rhwystro democratiaeth. Mae'r ffaith bod y mwyafrif o bobl yn derbyn eu newyddion gan ddarparwyr o Loegr yn llesteirio addysg wleidyddol, efo'r darparwyr hynny yn canolbwyntio'n llwyr ar Lundain, gan ddangos diffyg dealltwriaeth llwyr o ddatganoli. Dim rhyfedd, felly, fod traean o bobl a gafodd eu holi mewn arolwg y flwyddyn ddiwethaf yn meddwl bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i redeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae yna ambell i ddatblygiad positif wedi bod, efo'r BBC ac S4C yn dechrau cynnig cynnwys newydd, a hynny ar blatfformau newydd hefyd, sy'n apelio at gynulleidfaoedd newydd ac ifancach. Ac mae Golwg360 a nation.cymru yn cynnig darpariaeth werthfawr ar-lein. Ond mae nifer o ddarlledwyr wedi cwtogi eu horiau darlledu ar gyfer Cymru. Yn 2015-16, roedd allbwn teledu Saesneg ar y BBC yn 641 awr, sef gostyngiad o 21 y cant o 814 awr mewn cyfnod blaenorol. Cafwyd toriadau o 30 y cant i raglenni ITV, a hynny'n fwy nag mewn unrhyw ardal arall o'r Deyrnas Unedig.
Pryder arall ydy cynlluniau Llywodraeth Llundain ynglŷn â rheoleiddio radio masnachol. Mi allai hynny arwain at lai fyth o amrywiaeth, ac er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn derbyn bod angen sicrhau bod newyddion yn parhau i gael ei ddarparu ar radio masnachol, nid ydyn nhw'n sôn o gwbl am newyddion Cymru.
Rydw i'n troi rŵan at S4C, ac yn sicr mae angen sicrhau cyllid sefydlog a digonol ar gyfer ein hunig sianel Gymraeg er mwyn sicrhau dyfodol bywiog, perthnasol a llwyddiannus ar gyfer cenedlaethau i ddod. Bron i bedair blynedd yn ôl, fe wnaeth comisiwn Silk argymell datganoli pwer i ariannu S4C i Gymru. Yn y cyfamser, mis i ffwrdd o flwyddyn ariannol newydd, rydym ni'n dal i aros am adolygiad Euryn Ogwen Williams o S4C. Mae'n galonogol bod S4C yn gweithio ar gynyddu amrywiaeth ac yn darparu cynnwys ar blatfformau newydd, ond mae'r ffaith bod y sianel wedi bod trwy gyfnod o ansicrwydd ariannol ers blynyddoedd yn gwneud cynllunio ar gyfer y dyfodol yn anodd ac yn hynod, hynod o heriol.
Rŵan, nid oes yna neb yn amau y bydd ariannu S4C ar ôl datganoli yn sialens, gan fod yna gymaint o'r arian yn cael ei sybsideiddio gan y ffi drwydded. Ond beth rydym ni'n gofyn amdano fo heddiw ydy ymchwilio hynny, ymchwilio i'r posibiliadau, ymchwilio i ddatganoli darlledu, ac edrych ar y gwahanol opsiynau, gan gynnwys yr opsiynau cyllidol. Ac mae'n rhaid inni gofio hefyd fod S4C yn hollbwysig yn economaidd, yn ogystal ag yn ddiwylliannol, efo pob £1 sy'n cael ei buddsoddi gan y sianel mewn diwydiannau creadigol yng Nghymru yn werth £2.09 i'r economi. Yn ôl adolygiad Hargreaves o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru, heb S4C efallai na fyddai gan Gymru unrhyw gwmnïau teledu annibynnol.
Rydw i'n cloi yng ngeiriau Elfed Wyn Jones, sydd newydd gwblhau wythnos o ympryd dros ddatganoli darlledu. Rydw i yn credu bod Elfed wedi crynhoi yn dda iawn, yn y geiriau yma, y sefyllfa yr ydym ni ynddi hi heddiw yma. Mae Elfed yn dweud fel hyn: 'Rydw i'n gobeithio y bydd fy ngweithred yn dangos mor ddifrifol ydy'r angen i gael rheolaeth yng Nghymru ar ddarlledu. Mae o'n mynd i fod yn anodd, ond wrth feddwl am beth fydd hyn yn ei gyflawni ar gyfer pobl Cymru—gwell democratiaeth, gwybodaeth gliriach a chryfhau sefyllfa'r Gymraeg—byddai hynny yn rhoi cryfder imi frwydro nes bwrw'r maen i'r wal. Rwy'n derbyn fy nghyfrifoldeb i weithredu. Gobeithio y bydd ein gwleidyddion yn cymryd eu cyfrifoldebau hwythau hefyd.'
Mae'n bryd i Gymru gael llais, ac i ni, fel pobl, allu cael y sgyrsiau cenedlaethol i wella'r ffordd y mae'r wlad yn cael ei llywodraethu. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau eraill yn y Siambr yma heddiw, ond rwy'n erfyn arnoch chi: cefnogwch ein cynnig ni er mwyn inni gael y drafodaeth bwysig yma y mae angen ei chael yng Nghymru heddiw.