8. Dadl Plaid Cymru: Darlledu

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 5:07, 28 Chwefror 2018

Os caf i ymateb, yn amlwg, os ydy'r gwrthbleidiau yn llwyddo i ennill y ddadl drwy wrthod y gwelliannau rhesymol heddiw, mi fydd y Llywodraeth yn ystyried sut y gallwn ni ymateb i benderfyniad y Cynulliad. Felly, nid yw hi'n gywir i ddweud na fyddwn ni'n ystyried unrhyw benderfyniad i ymchwilio ymhellach. Ond nid dyna safbwynt y Llywodraeth.