8. Dadl Plaid Cymru: Darlledu

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 5:03, 28 Chwefror 2018

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyfrannu i ddadl ar ddarlledu, oherwydd mae o wedi bod yn bleser gen i dros y blynyddoedd i fod yn gyfrifol am ddeddfu am ddarlledu yn San Steffan. Ac rydw i am ei gwneud hi'n hollol glir fy mod i'n parhau o'r farn, yn bersonol ac fel Gweinidog â'm mhrofiad i yn y pedwar mis, pum mis, diwethaf yma, nad dyma yr amser i ddechrau sôn am ddatganoli rhan o ddarlledu, neu unrhyw ran o ddarlledu, i Gymru fel rhan o ddatblygu'r setliad datganoli, oherwydd mae natur economi a diwylliant darlledu ac, yn bwysicach, yr holl lwyfannau cyfathrebu digidol sydd gyda ni, a llawer iawn o'r diwydiant yna yn y bae yma yng Nghaerdydd—mae'r diwydiant yna o reidrwydd yn ddiwydiant sydd wedi gweithredu a datblygu nid yn unig drwy reoleiddio yn y Deyrnas Unedig, ond hefyd drwy reoleiddio ar lefel ryngwladol. 

Mae'r Llywodraeth wedi gwneud ei barn yn hollol glir yn y gwelliannau i'r cynnig yr hyn yr ydym ni am ei sicrhau o ran darlledu yn Gymraeg a Saesneg yn cael ei gyllido yn ddigonol, a'r pryder am doriadau i S4C. Ond rydym ni'r un mor gadarn fod angen i ni allu dadlau am economi ac effeithiau cyfathrebu yn gyffredinol gyda'n gilydd o fewn y Deyrnas Unedig.

Mae ITV Cymru, wrth gwrs, yn parhau i chwarae rôl hanfodol fel dewis amgen effeithiol i'r BBC ac rydym ni yn gweld bod cyflwyno gwelliant sy'n cydnabod y dylai darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus fod yn fwy atebol i holl Seneddau'r Deyrnas Unedig yn ran allweddol o'n gwaith ni. Dyna rydw i wedi bod yn ceisio ei ddilyn, fel Gweinidog gyda chyfrifoldeb—trosolwg—dros ddarlledu, sydd heb ei ddatganoli, sef cynyddu atebolrwydd sefydliadau darlledu a chyfathrebu y Deyrnas Unedig i'r Cynulliad hwn, a thrwy hynny, i wylwyr a gwrandawyr yng Nghymru.

Mi fuom ni'n gweithio'n galed, fel Llywodraeth, i sicrhau bod siarter newydd y BBC yn rhoi mandad i'r BBC gyflawni llawer mwy i bobl Cymru. Mae gan y BBC bellach atebolrwydd priodol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wrth i ninnau fel Llywodraeth baratoi i benodi aelod o fwrdd Ofcom i gynrychioli Cymru am y tro cyntaf erioed, rydym ni'n ymwybodol bod y trefniadau yma yn agor y ffordd i ni gael dylanwad gwirioneddol fel Llywodraeth Cymru ar strwythur cyfathrebiadau yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig.