9. Dadl Plaid Cymru: Parhau ag aelodaeth o’r Undeb Tollau

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 5:12, 28 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Na, nid wyf yn derbyn y pwynt hwnnw, ac fe egluraf pam cyn bo hir.

Hefyd, yn y ddadl hon, mae angen inni ystyried y cwestiwn hollbwysig ynghylch newid yn yr hinsawdd. Sut y gall fod yn dda o safbwynt newid yn yr hinsawdd i gludo mwy o nwyddau o wledydd sydd hyd yn oed yn bellach? Rhaid gwarchod y fasnach gyda marchnadoedd agosach os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Nawr, roeddwn eisoes wedi rhagweld y cwestiwn, 'A allwch fod yn undeb tollau'r UE os nad ydych yn aelod-wladwriaeth o'r UE?' Yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yw, 'Gallwch'. Ffurfir undeb tollau'r UE o aelod-wladwriaethau'r UE ac yn bwysig, mae'n cynnwys rhai tiriogaethau nad ydynt yn yr Undeb Ewropeaidd, fel Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel. Ac o ran negodi undeb tollau newydd, mae'r UE newydd ddatgan na all y DU gael bargen gystal â'r un sydd gennym yn awr.