Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 28 Chwefror 2018.
Yn hollol. Edrychwch, ar adeg cynhyrchu'r Papur Gwyn, fe'i gwnaethom yn gwbl glir fod materion yn ymwneud â'r undeb tollau yn llawer mwy cymhleth na chymryd rhan yn y farchnad sengl. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud ein bod wedi casglu llawer mwy o dystiolaeth ac wedi siarad ag amryw o arbenigwyr a rhanddeiliaid, ac mae hyn wedi arwain at ddealltwriaeth well o'r cyfranogiad parhaus yn yr undeb tollau a goblygiadau hynny. Ond, wyddoch chi, mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi dod i'r un casgliad—pan fydd y DU yn gadael yr UE, bydd yn peidio â bod yn aelod o'r undeb tollau, sy'n rhan annatod o drefn gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd. Yn ein barn ni, mae'n annirnadwy y gallai neu y byddai'r Comisiwn Ewropeaidd yn cytuno i negodi â thrydydd gwledydd ar ran y DU wedi i ni adael yr UE. Felly mae'n amhosibl inni barhau'n rhan o'r undeb tollau. Ond os oes unrhyw dystiolaeth sy'n bodoli sy'n awgrymu y byddai'r Comisiwn Ewropeaidd yn cytuno i negodi ar ran y DU wedi i ni adael yr UE, yna byddwn yn croesawu'r dystiolaeth honno. Serch hynny, gallai'r DU negodi undeb tollau newydd gyda'r UE fel rhan o'n trefniadau ôl-Brexit, a fyddai'n golygu ein bod yn cadw'r tariff allanol cyffredin. Gydag ymrwymiad pendant i barhau i weithio o fewn fframwaith rheoleiddio'r farchnad sengl, byddai hyn yn galluogi nwyddau i gylchredeg rhwng yr UE-27 a'r DU ar yr un sail â heddiw fwy neu lai.
Mae nifer o randdeiliaid, ac yn fy marn i, yn bersonol, mae'n debyg mai Siambr Fasnach Prydain Iwerddon yw'r mwyaf diddorol ohonynt, wedi cyflwyno cynigion a fyddai'n gweld yr UE a'r DU yn negodi cytundebau masnach rydd newydd ochr yn ochr â'i gilydd. A byddai hyn, rwy'n credu, yn atyniadol nid yn unig i ni, ond hefyd i'r UE-27, a dylai fod yn amcan pendant i'r DU yn y trafodaethau sydd ar y gweill yn fy marn i. Nid wyf yn credu bod y DU wedi cyflwyno tystiolaeth economaidd drylwyr neu ddadansoddiad cadarn o gost a budd i gyfiawnhau'r ffaith y byddai'n well ganddi dorri'n rhydd o'r farchnad sengl a'r undeb tollau er mwyn mynd ar drywydd amheus cytundebau masnach rydd dwyochrog newydd gwych mewn mannau eraill ar draws y byd. Yn wir, mae datgelu dadansoddiad Brexit Llywodraeth y DU heb ganiatâd yn ddiweddar yn cadarnhau na allai cytundebau masnach newydd wneud iawn am y niwed economaidd a wneir drwy ddilyn llinellau coch y Llywodraeth o adael y farchnad sengl a'r undeb tollau. Os yw Llywodraeth y DU yn dilyn ei pholisi o adael y farchnad sengl a'r undeb tollau o blaid polisi masnach cyfan gwbl annibynnol, bydd hyn yn creu risg o osod rhwystrau di-doll a thariffau, a fydd yn ddiau yn niweidiol iawn i economi Cymru.
Mae ein papur masnach, a gefnogir gan astudiaeth effaith Ysgol Fusnes Caerdydd yn dangos mai'r ffordd orau o ddiogelu economi Cymru yw drwy gadw mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl Ewropeaidd, ac aelodaeth o undeb tollau. Mae ymchwil yn cadarnhau ein dadansoddiad y byddai Brexit caled yn effeithio'n drychinebus ar swyddi a chymunedau yng Nghymru, yn lleihau'r economi rhwng 8 a 10 y cant, sy'n cyfateb i rhwng £1,500 a £2,000 y person yn ein gwlad. Yn sicr, rydym yn parchu penderfyniad democrataidd pobl Cymru i adael yr UE, ond nid ydym o'r farn fod pobl Cymru wedi pleidleisio dros Brexit er mwyn bod yn llai cefnog. Aros o fewn undeb tollau â'r UE yw'r ffordd orau i ddiogelu hynny. Felly, gadewch i mi fod yn gwbl glir, rydym ni, fel Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a nifer o rai eraill, yn credu bod y dystiolaeth yn ddiamwys—mai'r ffordd orau o sicrhau lles gorau busnesau Cymru, cymunedau Cymru, teuluoedd Cymru, gweithwyr Cymru, yw drwy fod mewn undeb tollau gyda'r UE, am y dyfodol rhagweladwy fan lleiaf, a thrwy barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl o'r tu allan i'r UE.
Heb ymrwymiad o'r fath, rwy'n credu ei bod hi'n parhau'n aneglur iawn sut y gellid datrys problem y ffin yng Ngogledd Iwerddon, ni waeth beth fydd Aelodau'r gwrthbleidiau'n ei honni. Gallai'r mater arwain o hyd at ddad-wneud yr holl negodiadau rhwng yr UE a'r DU. Dyma safbwynt rydym wedi dadlau yn ei gylch yn ein Papur Gwyn, 'Diogelu Dyfodol Cymru', a gafodd ei lunio ar y cyd â Phlaid Cymru, a dyma yw ein safbwynt o hyd. Dyma'r safbwynt sydd yn ein gwelliant i'r cynnig.