Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 28 Chwefror 2018.
Rwyf am orffen fy mhwynt. Mae undeb tollau Twrci yn anghyflawn gan nad yw'n cynnwys nwyddau amaethyddol. Mewn undeb tollau, ni fyddwn yn gallu sicrhau mynediad ychwanegol i farchnadoedd drwy gytundebau masnach rydd yr UE â thrydydd gwledydd yn awtomatig. Bydd y trydydd gwledydd hyn fodd bynnag yn cael mynediad at ein marchnadoedd ni, ac mae honno'n anfantais.