Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 28 Chwefror 2018.
Tybed a allwch egluro un pwynt am 'yr undeb tollau' yn hytrach nag 'undeb tollau'. A gaiff y ddau ohonom gytuno mai un undeb tollau yn unig sy'n bosibl, drwy ddiffiniad, oherwydd mae'n golygu un endid daearyddol gyda thariff allanol cyffredin? Felly ni allwch gael mwy nag un undeb tollau yn yr UE.