9. Dadl Plaid Cymru: Parhau ag aelodaeth o’r Undeb Tollau

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:32, 28 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Nac ydw, ddim o gwbl. Mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fyddai penderfynu a yw am osod tariffau neu beidio. Er enghraifft, mae tariff allanol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd yn gosod treth o 4.7 y cant ar ymbarelau â choesau telesgopig. Mae'n gosod tariff o 1.7 y cant ar gleddyfau, cleddyfau cwta, bidogau, picelli, gweiniau a chyllyll gweiniog. Mae'n gosod tariff o 15 y cant ar fewnforio beiciau un olwyn. Dyma wiriondeb cymhlethdod y 12,561 o eitemau a restrir yn y—