Prifysgolion fel Gyrwyr Economaidd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:06, 6 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Ledled Ewrop, Gogledd America a rhannau o Loegr, mae prifysgolion yn gweithredu fel ysgogwyr pwysig o ddatblygiad economaidd ac nid yn unig fel cyflogwyr mawr. Er enghraifft, ceir Canolfan Entrepreneuriaeth ac Arloesedd Mannheim yn Mannheim ac mae'n cynnig llwyfan sylfaenydd a deori i fyfyrwyr, entrepreneuriaid ifanc a buddsoddwyr. Mae gan Aarhus, fel Caergrawnt, barc ymchwil sy'n meithrin arloesedd a chyflogaeth. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynigion i efelychu'r ddwy ddinas Ewropeaidd lwyddiannus hynny yn nwy ddinas-ranbarth Cymru?