Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 6 Mawrth 2018.
Yn gyntaf oll, adeiladwyd yr A55 i safon is na'r safon y byddai'n cael ei hadeiladu nawr. Ond mae hi yno, ac mae'n rhaid i ni ymdrin â hi fel ag y mae hi. Beth allwn ni ei wneud, felly, i wella llif y traffig ar hyd yr A55? Wel, ceir dau brosiect penodol y byddwn yn cyfeirio'r Aelod atynt: yn gyntaf, cael gwared ar y cylchfannau yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, o ran y cam dylunio. Bydd hynny'n helpu i symud traffig yn gyflymach. Ac, wrth gwrs, y gwaith sy'n cael ei wneud i ystyried trydedd croesfan dros y Fenai a fyddai'n troi'r A55 yn ffordd ddeuol go iawn, yn hytrach na bod ag un rhan lle mae wedi ei chyfyngu i un lôn i'r ddau gyfeiriad.