Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 6 Mawrth 2018.
Wel, diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond a yw'n teimlo ei bod hi'n annerbyniol y bu'n rhaid i un o'm hetholwyr oedrannus, ar ôl dioddef codwm, aros dros 10 awr i ambiwlans gyrraedd? Roedd hyn cyn y tywydd garw diweddar. Yn ystod y cyfnod hwn, fe'i cynghorwyd gan staff ymateb i beidio â symud rhag ofn iddi waethygu ei hanafiadau. Yn ufudd, gorweddodd ar lawr yr ystafell ymolchi tan i'r ambiwlans gyrraedd. Hoffwn ddweud yn y fan yma fod y gofal a gafodd gan griw'r ambiwlans ar ôl iddyn nhw gyrraedd yn rhagorol ym mhob ffordd. Serch hynny, onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi ei bod hi'n gwbl annerbyniol, yng Nghymru yr unfed ganrif ar hugain, bod yn rhaid i glaf aros 10 awr am ymateb ambiwlans?