Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 6 Mawrth 2018.
Cwestiwn yn benodol ynglŷn ag amseroedd aros yn ystod y tywydd garw—rydym ni yn ymwybodol o’r straen ychwanegol sydd wedi cael ei roi ar y gwasanaeth ambiwlans oherwydd yr eira. Rydw i wedi clywed un adroddiad arbennig o bryderus ynglŷn ag effaith aros yn hir iawn ar un claf yn arbennig. Nid ydy eira mawr yn rhywbeth sy’n digwydd yn wythnosol, ond nid ydy o chwaith yn rhywbeth cwbl eithriadol. A all y Prif Weinidog ein cyfeirio ni at wybodaeth all roi sicrwydd i ni fod y gwasanaeth ambiwlans yn cynllunio gymaint ag y gall o i allu ymdopi pan ydym ni yn cael sefyllfaoedd o dywydd eithriadol fel y cawsom ni'r wythnos diwethaf?