– Senedd Cymru am 2:16 pm ar 6 Mawrth 2018.
Eitem 2 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
Rwy'n galw am un datganiad gan Lywodraeth Cymru, gobeithio gan yr Ysgrifennydd iechyd, ar sganio MRI amlbarametrig—neu mp—ar gyfer cleifion GIG Cymru y mae amheuaeth bod canser y brostad arnynt. Pan ysgrifennais at yr Ysgrifennydd iechyd ynghylch y mater hwn, ysgrifennodd yn ôl ataf yr wythnos diwethaf yn dweud nad yw'r canllawiau presennol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal—neu NICE—yn argymell mpMRI cyn biopsi, ac nad oes unrhyw gonsensws clinigol ar y cynllun gorau posibl ar gyfer llwybr canser y brostad sy'n cynnwys hyn.
Pan ysgrifennodd cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru ato, yn croesawu ei ymrwymiad i ddisgwyl bod byrddau iechyd yn adolygu eu llwybrau diagnostig i ymgorffori'r sganiau hyn, pe byddai NICE yn argymell hynny mewn canllawiau diwygiedig ar ôl mis Ebrill 2019, mynegwyd pryder hefyd y byddai hyn yn rhy hwyr, y bydd cleifion yn y gogledd yn parhau i gael eu gadael ar ôl, ac mae eu trafodaethau â niwrolegwyr yn y gogledd yn awgrymu bod angen inni ddatblygu'r gwasanaeth yn awr er mwyn paratoi ar gyfer achrediad NICE. Yr ateb y tro hwn oedd,
'Pan fydd y manteision clinigol wedi eu hasesu, ac os caiff y canllawiau eu diweddaru, byddwn i'n disgwyl i fyrddau iechyd adolygu eu llwybrau diagnostig.'
Fodd bynnag, mae'r canllawiau presennol yn dweud bod y blaenoriaethau gweithredu allweddol o ran diagnosis a rheoli canser y brostad, gan NICE, yn cynnwys:
'Ystyried MRI amlbarametrig...ar gyfer dynion â biopsi craidd 10-12 uwchsain trawsrectol negyddol i benderfynu ar ba un a oes angen biopsi arall.'
Wel, ddydd Gwener diwethaf, cwrddais i ag etholwyr—cleifion—sydd wedi gorfod gwario symiau mawr o arian ar ôl i ymgynghorydd yn Wrecsam ddilyn y canllawiau hynny, ond nid oedd y GIG yn y gogledd yn fodlon ariannu'r sganiau hanfodol a gawsant dros y ffin yn Lloegr, yn y pen draw. Dywedodd un wrthyf ei fod wedi gwario £1,020. Dywedodd wrthyf hefyd fod y sganiau hyn fwy na ddwywaith yn fwy cywir na'r rhai sydd ar gael ar hyn o bryd. Roedd y gŵr bonheddig hwnnw o Sir y Fflint. Dywedodd un arall wrthyf—gŵr bonheddig o Langollen—mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hyn oherwydd mai nhw roddodd y Bwrdd Iechyd mewn mesurau arbennig, a'i fod yn un o naw o ddynion o'r gogledd sydd wedi gorfod talu am hyn er ei fod ar gael yn Lloegr ac yn y de. Maen nhw eisiau cwrdd â'r Gweinidog. Maen nhw'n dweud eu bod eisiau iddo dderbyn y dylai'r un peth fod yn digwydd yn y gogledd, ac maen nhw'n gofyn pam nad yw pobl fel fe yn cael eu had-dalu pan fu'n rhaid iddyn nhw dalu eu hunain am y weithdrefn hon a allai achub eu bywydau.
Nid yw'n ddigon da aros tan 2019, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae bywydau'r dynion hyn mewn perygl. Mae ar gael mewn rhannau o Gymru. Rydych chi'n dweud eich bod chi'n credu mewn un GIG Cymru. Wel, cyflawnwch ar hynny nawr os gwelwch yn dda.
Wel, nid wyf yn gwbl sicr beth yw'r cwestiwn a ofynnwyd i mi, ond roedd Ysgrifennydd y Cabinet yma i wrando ar lwyth achosion etholaeth yr Aelod, ac mae'n amlwg yn cyfathrebu ag Ysgrifennydd y Cabinet, a bydd hynny, rwy'n tybio, yn parhau.
A gaf i ddweud hyn wrth y rheolwr busnes? Rwy'n nodi o'r datganiad busnes nad yw'r Llywodraeth wedi datgan pryd y bydd yn gwneud datganiad ac yn cyhoeddi adroddiad ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr o ran deunydd pecynnu ac ailgylchu, a addawyd gan y Prif Weinidog ym mis Chwefror. Felly, a wnaiff y rheolwr busnes gadarnhau pryd y bydd hyn yn digwydd?
Ddoe es i gyda Kirsty Williams i ymweld â Natural Weigh yng Nghrucywel, sef y siop ddiwastraff gyntaf yng Nghymru a menter breifat a groesewir yn fawr. Ond mae'n annhebygol y bydd siopau fel Natural Weigh yn llwyddo oherwydd caiff yr archfarchnadoedd becynnu yr hyn maen nhw eisiau ei werthu i ni ym mha fodd bynnag maen nhw'n dymuno ei wneud ar hyn o bryd, a'r trethdalwr sy'n talu am ei ailgylchu, gobeithio, ond mewn llawer o achosion, wrth gwrs, nid yw'n cael ei ailgylchu, mae'n mynd yn hytrach i'r gwastraff cyffredinol. Felly, mae'r adroddiad allweddol ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr yn datgloi rhan o'r gallu i siopau fel Natural Weigh yng Nghrucywel bellach i wneud eu ffordd a llwyddo, ac wrth gwrs rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw.
Yn ail, a gaf i ofyn am ddadl amserol ar y problemau difrifol a gafwyd gyda'r gwasanaeth rheilffordd rhwng y de a'r gogledd yr wythnos diwethaf? Fe wnaeth y tywydd garw iawn, a fyddai wedi arwain at ganslo'r gwasanaeth beth bynnag, rwy'n cyfaddef, guddio, mewn gwirionedd, yn fy marn i, y methiant cynnal a chadw mwyaf difrifol ar fasnachfraint Cymru a'r Gororau y gallaf i ei gofio yn sicr. Ddydd Mawrth diwethaf canfuwyd nam ar olwyn trên, a arweiniodd erbyn diwedd y dydd at dynnu 27 o unedau trên yn ôl ac atal y gwasanaeth o'r de i Fanceinion, sy'n gyswllt hanfodol ar gyfer y rhai hynny sy'n teithio o'r gogledd a'r canolbarth, ac i'r gwrthwyneb, wrth gwrs. Cymerodd tan ddydd Llun yr wythnos hon—chwe diwrnod cyfan yn ddiweddarach—i ddatrys hyn. Mae'n ymddangos bod nam ar y cledrau ym Maendy, Casnewydd yn niweidio olwynion y trenau.
Nawr, wrth feddwl am y peth, mae hyn mewn gwirionedd yn gwbl warthus. A allwch chi ddychmygu'r ymateb pe byddai prif reilffordd arfordir dwyrain Lloegr yn methu â gweithredu am chwe diwrnod? Nid wyf yn gwybod pwy sy'n gyfrifol, er, gan mai nam ar y cledrau ydoedd, mae gan Network Rail lawer o waith esbonio i'w wneud. Rwyf yn gwybod, fodd bynnag, ei bod yn gywilyddus bod yn rhaid i ni ddioddef gwasanaeth mor eilradd mewn economi fodern.
Dyma'r pris yr ydym yn ei dalu am y tanfuddsoddiad echrydus yn ein seilwaith rheilffyrdd, sy'n £1 biliwn o leiaf ar hyn o bryd. Dyma sy'n digwydd pan fo gennych 5 y cant o'r seilwaith rheilffyrdd ond 1.5 y cant o'r buddsoddiad. Ac wrth i ni weld buddsoddiadau enfawr yn Crossrail a rheilffyrdd cyflym yn Lloegr, mae gennym ni reilffordd sydd, mewn gwirionedd, yn niweidio trenau ac yn arwain at atal y gwasanaeth am wythnos. Mae'n sefyllfa warthus, felly a gawn ni gyfle yn fuan iawn am ddadl ar y materion hyn? Rwy'n gwerthfawrogi bod datganiadau wedi'u hysgrifennu gan Ysgrifennydd y Cabinet, ond os cawn ni ddadl ar y materion hyn, gallwn ni hefyd archwilio'r goblygiadau posibl ar gyfer y fasnachfraint newydd, er nad yw proffil y buddsoddiad ariannol ar gael yn gyhoeddus eto hyd y gwn i. Efallai y gallem ni hefyd geisio atebion o ran pa iawndal a allai fod ar gael.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, ar bwnc gwahanol iawn, a gaf i ddweud y gofynnwyd i mi arwain cyfarfod o bobl Gwrdaidd sy'n byw yng Nghymru yr wythnos diwethaf, a oedd yn canolbwyntio ar ymosodiad Twrci yn Afrin a'r cyffiniau yng ngogledd Syria? Roedd ganddynt straeon dirdynnol a grymus iawn ac, fel dinasyddion Cymru, mae'n iawn ein bod yn clywed eu hanesion a'u profiadau yn ein Senedd. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gyfleu eu pryderon fel dinasyddion Cymru yn uniongyrchol i awdurdodau'r DU a gwneud datganiad ar hynny i'r Cynulliad? Mae'n atgas gweld cynghreiriad NATO yn ymosod ar ein cynghreiriaid yn erbyn Isis, a'r rhai hynny sy'n gweithio ar ran democratiaeth seciwlar yn Syria ac Irac, sy'n flodyn bregus iawn yn wir. Byddai'n dda i Lywodraeth Cymru godi llais dros ein dinasyddion Cymru o Kurdistan.
Mae'r Aelod yn codi tri phwynt pwysig a gwahanol iawn. Ynghylch cyfrifoldebau cynhyrchwyr, mae'r Gweinidog yn arwyddo i mi ei bod hi yn trafod â sefydliadau cynhyrchu yng Nghymru ac y bydd yn cyflwyno datganiad pan fydd y trafodaethau hynny wedi'u cwblhau. Hoffwn i ddweud fy mod i yn rhannu rhwystredigaeth yr Aelod o ran rhai o'r deunyddiau pecynnu gan gynhyrchwyr sydd gennym, ac mewn rhai ffyrdd mae ein ffordd gyfoes, ddigidol o fyw wedi gwaethygu hynny, oherwydd wrth i ni archebu pethau dros y rhyngrwyd maen nhw'n cael eu danfon wedi'u pecynnu mewn modd braidd yn hurt. Maddeuwch imi, Llywydd, am eiliad, archebais i gebl bach ar gyfer fy ffôn—nid wyf am ddweud beth yw gwneuthuriad fy ffôn—a daeth mewn blwch mor fawr â hyn, ac roedd cryn dipyn o ddeunyddiau pecynnu na ellir eu hailgylchu o gwbl ynddo, a byddai hynny wedi bod yn ddealladwy pe byddai'n cynnwys llestr bregus efallai, ond darn o gebl plastig oedd hwn. Rwyf wedi ysgrifennu at y cwmni dan sylw, mewn gwirionedd, yn cwyno, a gyda llawer o ffotograffau i ddweud, 'Beth ar y ddaear oedd diben hyn?' Felly, rwy'n rhannu ei rwystredigaeth, a gwn fod y Gweinidog yn rhannu ei rwystredigaeth hefyd, felly rwy'n sicr y bydd yn cyflwyno'r datganiad hwnnw pan fydd y trafodaethau hynny wedi'u cwblhau.
Mae fy nghyd-Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth yn nodi y byddai ef yn fwy na hapus i gael dadl y Llywodraeth ar destun methiant y gwasanaeth, ac, yn wir, am y fasnachfraint yn ei chyfanrwydd a'n dyheadau, os mynnwch chi, am y math o reolaeth y dylai fod gennym, ac yn wir, galwadau i ddatganoli rhai rhannau o'r rhwydwaith ymhellach. Rwy'n credu bod y gwasanaeth dan sylw yn un o'r meysydd hynny nad wyf i'n hollol sicr pwy sy'n gyfrifol amdanynt. Rwy'n rhannu rhywfaint o'r rhwystredigaeth honno gan fy mod i'n dod o Abertawe ac mae gennym ni broblem y Great Western hefyd. Felly, rwy'n credu ein bod yn dweud y byddai dadl yn amser y Llywodraeth yn ffordd dda iawn o edrych ar rai o'r materion hynny a gweld pa lefel o gonsensws a welir ar draws y Siambr ynglŷn â hynny.
Ac o ran ein dinasyddion Cymreig sydd â chysylltiadau Cwrdaidd, rwyf innau hefyd yn rhannu ei dristwch a gofid ynglŷn â rhai o'r pethau sy'n digwydd. Rwy'n fwy na pharod i fynegi ei bryderon, a phryderon y Siambr hon, i'r Prif Weinidog, ac rwy'n sicr y bydd ef yn gweithredu'n unol â hynny.
Roedd gen i ddau bwynt yr oeddwn i'n dymuno eu codi gydag arweinydd y tŷ. Rwy'n falch iawn ein bod yn cael dadl unigol yfory ar garchardai ac rwy'n gobeithio defnyddio'r cyfle hwnnw i siarad am fenywod sy'n garcharorion, ond roeddwn i'n awyddus i dynnu sylw arweinydd y tŷ at weithgareddau yr Ymddiriedolaeth Koestler, sef elusen ar gyfer celfyddydau yn y carchar. Yr wythnos hon, rwy'n disgwyl i ddarlun gael ei osod ar wal fy swyddfa sydd wedi'i beintio gan garcharor sy'n fenyw, a'i fwriad yw nodi wythnos Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Felly, roeddwn i'n meddwl bod cymaint o werth i'r fenter hon, a tybed a fyddai'n bosibl rywbryd i gael datganiad ar fentrau fel hyn yng Nghymru sydd, yn ogystal â gwerth cynhenid y darluniau eu hunain, yn ffordd o adsefydlu. Felly, tybed a oes rhywbeth y gallem ni roi ystyriaeth iddo yn hynny o beth.
Yn ail, wythnos yn ôl, daeth llu o fenywod i glwb rygbi yr Eglwys Newydd yn fy etholaeth i. Roedd tagfeydd ar y ffyrdd ac roedd yr ystafell a oedd wedi'i neilltuo dan ei sang. Roedd hyn ar gyfer cyfarfod a drefnwyd gan ein AS, Anna McMorrin, ac anerchiadau gan Carolyn Harris AS a minnau, ac roedd hyn i gyd yn ymwneud â'r dicter llwyr ynghylch beth sydd wedi digwydd i'w pensiynau—y menywod WASPI fel y'u gelwir. Roedd yn ymddangos yn fater o bryder enfawr i gynifer o fenywod, a chymaint o fenywod ledled Cymru, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oedd unrhyw beth o gwbl y gallem ei wneud drwy ein busnes yma yn y Cynulliad i edrych ar y mater hwn ac edrych ar y goblygiadau enfawr y mae'n eu cael ar fenywod wrth iddynt gynllunio eu bywydau, fel a ydynt yn rhoi'r gorau i'w swydd ai peidio, sy'n effeithio ar eu swyddogaeth fel gofalwyr—yr holl bethau sydd yn amharu ar ein cyfrifoldebau datganoledig, er nad yw'r mater ei hun wedi'i ddatganoli wrth gwrs.
Yn wir. Wel, dau bwynt pwysig iawn yn wir. O ran y prosiect celf, rwyf wrth fy modd yn clywed bod darlun yn cael ei osod ar wal ei swyddfa; edrychaf ymlaen at gael golwg arno. Wrth gwrs, nid yw wedi'i ddatganoli i ni, ond mae'n amharu ar lawer o wasanaethau Llywodraeth sydd wedi'u datganoli: cyflogadwyedd, gwasanaethau cymdeithasol, gofal, ac ati. Felly, yr hyn a wnaf yw cael sgwrs ag amryw o gyd-aelodau'r Cabinet i weld beth y gallwn ni ei wneud o ran ymateb trawslywodraethol i hynny, a byddwn i'n fwy na hapus i ddod i edrych ar y darlun a chael trafodaeth bellach â hi ynghylch yr hyn y gellir ei wneud. Mae'n ymddangos fel prosiect da iawn yn wir. Rwy'n siŵr y gallwn ni wneud rhywbeth gydag ef.
O ran y menywod WASPI, fel y'u gelwir, mae'n rhaid imi ddatgan buddiant ar y pwynt hwn, Llywydd, gan ddweud fy mod i mewn gwirionedd yn un o'r menywod WASPI. Rwyf yng ngrŵp oedran y menywod y mae'r symud pensiynau wedi effeithio arnynt. Mae fy un i wedi'i symud saith mlynedd. Ac mae hynny'n iawn os ydych chi'n dal i gael eich cyflogi mewn gwirionedd, ond nid yw'n iawn os nad ydych chi'n dal i fod mewn cyflogaeth, neu os oedd eich cyfrifoldeb teulu cyfan wedi'i seilio ar eich gallu i ymddeol ar adeg benodol mewn amser. Nid yw'r broblem yn ymwneud â'r ffaith nad oes cydraddoldeb i ni yn y pensiwn, sef y cwestiwn a gaiff ei ofyn i ni yn aml. Nid dyna'r broblem. Y broblem yw faint o amser sydd gennych chi i baratoi a chynllunio ar gyfer faint o incwm y bydd gennych. Felly, nid yw'n ymwneud â symud tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau; mae'n ymwneud â pha mor hir oedd gennych i gynllunio ar gyfer hynny a faint y byddech wedi gorfod ei gynilo er mwyn gwneud yn siŵr bod eich cynlluniau yn parhau i fod yn bosibl. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig i wneud y pwynt hwnnw, oherwydd y broblem yn y fan yma yw nad oedd hynny'n ddigon hir i bobl nad ydynt yn ddigon ffodus i aros mewn cyflogaeth ar ôl eu pen-blwydd yn 60 allu paratoi'r cynlluniau hynny. Ac o ganlyniad i hynny, mae nifer fawr iawn o bobl mewn gwirionedd yn dioddef caledi difrifol o ganlyniad i beidio â chael eu pensiwn am y blynyddoedd hynny. Felly, nid yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli, ond mae'n effeithio ar ein gwasanaethau yn fawr iawn, iawn. Gwn fod fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi mynegi a lledaenu ein barn ar yr effaith ar economi Cymru yn gyffredinol. Rwy'n fwy na pharod, fel y Gweinidog cydraddoldeb, i wneud y pwynt hwnnw eto yn rymus i Lywodraeth y DU.
Arweinydd y tŷ, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar gymorth i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan ffordd liniaru arfaethedig yr M4. Mae cwmni gweithgynhyrchu yng Nghasnewydd wedi cysylltu â mi gan ddweud y byddai'n dioddef colled sylweddol i'w fusnes na ellir ei hadennill, yn ogystal â mynd i gostau adleoli, oherwydd gorfod cau ei safle presennol yng Nghasnewydd. Er bod y cwmni hwn wedi bod yn cysylltu â Llywodraeth Cymru ers 2016, maen nhw'n teimlo rhwystredigaeth fawr ynghylch y diffyg eglurdeb o ran y lefel o gymorth ymarferol ac ariannol y gallant ddisgwyl ei derbyn i'w galluogi i barhau i weithredu yng Nghymru. Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn ichi am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn cyn gynted â phosibl? Diolch.
Ie. Mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi dweud y bydd dadl ar lawr y tŷ ynglŷn â'r M4 a'r holl oblygiadau cyn gynted ag y byddwn yn gwybod canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus. Felly, rwy'n siŵr y bydd honno'n agwedd—busnesau a ddadleolir gan y cynigion, pa ganlyniadau bynnag a geir o'r ymchwiliad cyhoeddus, yr wyf yn siŵr y bydd rhan o'r ddadl honno.
Hoffwn ofyn i arweinydd y tŷ am ddatganiad Llywodraeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol os yw'n bosibl, ac, yn wir, am arweiniad pellach ar y rhwymedigaethau ar awdurdodau lleol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod y ganolfan hamdden yn ein cymuned ym Mhontllanfraith dan fygythiad o gau. Mae wedi'i harbed ar y funud olaf dros dro oherwydd gwaith caled y bobl leol sy'n ymgyrchu i gadw'r ased hwnnw. Mae yn gwella lles pobl. Y mae wedi cofnodi'r nifer mwyaf o ddefnyddwyr erioed yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ond mae'r awdurdod lleol, fel pob un arall, wedi'i ddal yn y sefyllfa hon, oherwydd polisïau cyllidol y wladwriaeth Brydeinig, o ymdrechu'n daer i godi arian, a byddent yn hoffi gwerthu tir y ganolfan hamdden a'i werthu i ddatblygwyr i wneud arian i dalu am wasanaethau. Ac mae cyngor Caerffili bellach yn cynnal adolygiad cyffredinol o hamdden a lles, ac rwy'n credu, yn rhan o'r adolygiad hwnnw, byddai cael mwy o eglurder ynghylch eu rhwymedigaeth o dan y Ddeddf llesiant yn gwella'r adolygiad hwnnw, ac yn datgan eu rhwymedigaethau iddynt yn glir iawn, a, gobeithio, yn arwain at ganlyniad lle gall dinasyddion barhau i fwynhau'r cyfleusterau rhagorol ym Mhontllanfraith ac mewn mannau eraill yn y dyfodol.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Mae'n un o effeithiau enbyd iawn yr agenda cyni yn gyffredinol, ac er bod cynghorau yng Nghymru wedi'u diogelu gan y Llywodraeth hon mewn ffordd na fu'n bosibl i gynghorau yn Lloegr, serch hynny, mae'r agenda cyni yn achosi cryn broblemau. Ac mae'n gwneud hynny fwyaf ar rai o'n cyfleusterau cymunedol agosaf at ein calonnau y mae pobl wedi brwydro'n galed i'w cael. Ac mae hynny'n digwydd ledled Cymru gyfan, ac mae llawer o gynghorau yn wir yn gweld hynny'n anodd. Ac mae'n benbleth wirioneddol rhwng cefnogi gwasanaethau statudol y mae'n rhaid i gynghorau eu cynnal a'r gwasanaethau dewisol fel y'u gelwir, ond rhai sy'n gwbl hanfodol serch hynny, fel y mae'r Aelod yn ei nodi.
Nid ein lle ni yw rhagweld penderfyniadau unigol y gwahanol gynghorau ac ati, ond gwn fod fy nghyd Ysgrifennydd y Cabinet yn trafod yn gyson â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac â chynghorau unigol ynghylch eu dyletswyddau llesiant, ac rwy'n siŵr y byddai'n fwy na pharod i ysgrifennu atynt eto yn mynegi natur strategol trosfwaol eu dyletswyddau o dan y Ddeddf, er y byddwn i'n pwysleisio bod penderfyniadau unigol yn sicr yn fater i'r sefydliad democrataidd lleol.
A allaf ddiolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad, a mynd ar ôl agwedd sydd yn bwysig yn gyfoes rŵan? Mae llygredd awyr yn parhau i fod yn broblem sy'n wynebu llawer o bobl yn fy rhanbarth i, fel rŷch chi'n ymwybodol, yn dod o Abertawe eich hunan. Yn yr Hafod yn Abertawe, yn Nhreforys, a hefyd ym Mhort Talbot, mae llygredd awyr yn achosi afiechyd a marwolaethau dianghenraid. Pan gymerodd ClientEarth y Llywodraeth hon i'r llys, cyfaddefwyd bod diffyg gweithredu'r Llywodraeth ar lygredd aer yn anghyfreithlon. Rydym ni nawr yn disgwyl i gynllun awyr glân i Gymru a'r parthau awyr glân gael eu lansio. A allaf felly ofyn am ddadl a diweddariad cyn gynted ag y bo modd ar y cynllun yma, a hefyd ofyn pryd y gall y Cynulliad ddisgwyl gwybodaeth bellach ar y parthau awyr glân? Diolch yn fawr.
Mae'r Gweinidog yn gwrando ar eich sylwadau, ac rwy'n sicr ei bod yn cytuno â nhw, a bydd hi'n cyflwyno datganiad er mwyn i'r tŷ ei ystyried cyn bo hir. Fodd bynnag, hoffwn i hefyd ddweud bod mater o gydraddoldeb yn y fan yma hefyd yn sicr. Un o'r pethau diddorol, os oes gan Aelodau fynediad at astudiaethau prifysgol ar aer glân, yw, yn Abertawe er enghraifft, bod llawer o'r llygredd o ganlyniad i geir ar lan y môr yn Abertawe, o rannau cyfoethog iawn y ddinas, yn llifo mewn gwirionedd i fyny'r rhiw mewn storm berffaith i rannau tlotach y ddinas ar y brig. Felly, mae'r llygredd a gynhyrchir gan rannau cyfoethog y ddinas yn effeithio fwyaf ar rannau tlotaf y ddinas mewn gwirionedd. Felly, nid wyf yn sicr bod pawb yn hollol ymwybodol o sut yn union y mae llif yr aer yn gweithio yn y ffordd honno, a chymhlethdod rheoli cyflymder traffig amrywiol mewn gwirionedd, er enghraifft, er mwyn lleihau y ffordd y mae llif yr aer hwnnw yn digwydd mewn gwirionedd, o gofio'r amodau hinsoddol arbennig. Ni wnaethom ddioddef yn arbennig o'r eira yn Abertawe dros y penwythnos, ond cawsom wynt difrifol, ac achosodd hynny broblemau llygredd difrifol iawn mewn rhannau o'r ddinas, gan ei fod wedi effeithio ar agweddau penodol ar y ddinas. Ac mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth fynd ar drywydd y mater. A gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r materion hyn, ac y bydd yn rhoi ystyriaeth i hynny pan fydd yn cyflwyno ei datganiad.
Diolch i ysgrifennydd y tŷ.