Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 6 Mawrth 2018.
Diolch ichi, Llywydd.
Mae datganiad ynglŷn â gweithlu'r GIG wrth gwrs, yn amserol, yn enwedig o ystyried y tywydd eithriadol dros yr wythnos diwethaf. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ategu'r Prif Weinidog drwy fynegi fy niolch a'm gwerthfawrogiad o ran y ffordd yr ymatebodd gweithwyr y gwasanaeth cyhoeddus yn llywodraeth Leol, y gwasanaeth iechyd gwladol, gwasanaethau brys, y trydydd sector, ac, wrth gwrs, am ymateb y cyhoedd ehangach. Mae'r ymrwymiad anhygoel a ddangoswyd gan staff y GIG a welwyd gan bob un ohonom yn yr ychydig ddyddiau diwethaf yn un enghraifft arall o pam y maent mor fawr eu parch gan y Llywodraeth hon ac, wrth gwrs, gan bobl Cymru.
Rwyf eisiau tynnu sylw at y gwaith sydd eisoes ar y gweill i gefnogi, datblygu ac ehangu'r gweithlu, yn awr ac yn y dyfodol. Rydym yn trafod yn rheolaidd yr heriau recriwtio sy'n wynebu'r gwasanaethau iechyd cenedlaethol. Mae'r heriau yn rhai go iawn, ac, wrth gwrs, rwy'n disgwyl y bydd craffu ar hyn. Fodd bynnag, mae'n ffaith ddiymwad bod dewisiadau ariannol anodd a wnaed gan Lywodraeth bresennol Cymru er gwaethaf wyth mlynedd o gyni dan law Llywodraeth y DU, wedi gweld gweithlu'r GIG yn tyfu i'r mwyaf y bu erioed. Mae ystadegau swyddogol yn dangos bod gennym y nifer mwyaf erioed o staff yn gweithio yn GIG Cymru. Mae gennym y nifer mwyaf erioed o nyrsys a bydwragedd cymwys, ymgynghorwyr ysbytai a staff y gwasanaeth ambiwlans.
Ac mae'r Llywodraeth hon yn parhau i weithredu'n gadarnhaol, drwy ein menter 'Hyfforddi. Gweithio. Byw', i gynorthwyo sefydliadau'r GIG i hyfforddi a recriwtio'r gweithlu sydd eu hangen arnyn nhw a ninnau. Eisoes mae ein hadenillion ar fuddsoddiad wedi bod yn sylweddol, yn enwedig o ran nifer y meddygon sy'n dewis Cymru ar gyfer ymgymryd â'u hyfforddiant meddyg teulu. Ym mis Mai, byddaf yn Belfast ar gyfer lansio blwyddyn dau yr ymgyrch nyrsio 'Hyfforddi. Gweithio. Byw'. Ac, yn ddiweddarach yn yr haf, bydd 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn ehangu i gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan ganolbwyntio ar gynyddu'r gymysgedd o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ym maes gofal sylfaenol.
Yn ogystal â mentrau recriwtio, mae'r buddsoddiad parhaus y mae'r Llywodraeth hon wedi dewis ei wneud mewn addysg a hyfforddiant gweithlu'r GIG presennol ac yn y dyfodol yn hollbwysig. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod y gyllideb ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol anfeddygol wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddais becyn cymorth £107 miliwn ar gyfer 2018-19, ac mae hynny'n gynydd o £12 miliwn ar y flwyddyn flaenorol.
Ac mae'r buddsoddiad parhaus hwn yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn golygu bod cynnydd parhaus mewn lleoedd hyfforddi yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys, dros y cyfnod hwnnw, 68 y cant yn fwy o nyrsys dan hyfforddiant, mae lleoedd hyfforddiant ar gyfer ymwelwyr iechyd wedi mwy na dyblu, bu cynnydd o 42 y cant mewn lleoedd hyfforddi bydwreigiaeth, 51 y cant o leoedd hyfforddi therapi galwedigaethol ychwanegol, a chynnydd o 53 y cant yn y lleoedd hyfforddi ffisiotherapi. Rydym wedi buddsoddi, a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer gwyddonwyr gofal iechyd, therapyddion a hylenyddion deintyddol, ac mewn meysydd allweddol sy'n amlwg eu hunain megis hyfforddiant mewn geneteg.
Mae swyddogaeth y parafeddyg yn newid, a bydd yn parhau i ddatblygu o fewn amrywiaeth eang o leoliadau gofal. Bydd mwy o bwyslais yn dal i fod ar benderfyniadau, trin a rheoli critigol yn hytrach na ffocws hanesyddol ar gludo cleifion i adrannau damweiniau ac achosion brys ac rydym yn cefnogi'r newidiadau hynny yn swyddogaeth y parafeddygon, ac, ers 2014, cynyddodd nifer y lleoedd hyfforddi parafeddygon yng Nghymru gan 139 y cant.
Yn wahanol i rannau eraill o'r DU, mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod pa mor bwysig yw cefnogi ein myfyrwyr gofal iechyd yn ystod eu cyfnod astudio. Dyna pam yr ydym wedi cadw bwrsariaeth y GIG. Y llynedd, cyhoeddais y byddem yn ymgynghori ar gynlluniau ar gyfer cymorth ariannol mwy hirdymor ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd yn y dyfodol. Bydd yr ymgynghoriad hwnnw yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf, ac edrychaf ymlaen at dderbyn amrywiaeth eang o safbwyntiau gan sefydliadau ac unigolion er mwyn helpu i osod sylfaen ar gyfer trefniadau yn y dyfodol ac yn y tymor hir.
Fel y gŵyr Aelodau wrth gwrs, bu cryn ddiddordeb mewn faint o leoedd myfyrwyr meddygol sydd ar gael yng Nghymru. Ac yn y gogledd mae'r ddadl am ysgol feddygol newydd wrth gwrs, wedi parhau. Ac rwyf wedi egluro safbwynt y Llywodraeth. Ein barn ni yw y gall ac y bydd Prifysgol Bangor, gan weithio gydag ysgolion meddygol Caerdydd ac Abertawe, yn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru. Rwy'n gwybod bod cryn dipyn o waith wedi'i wneud eisoes i lunio cynigion ar gyfer y dyfodol.
Gobeithiaf fod mewn sefyllfa i ddweud mwy am y cynigion hynny yn ystod yr wythnosau nesaf. Ond rwyf am wneud yn siŵr bod gennym ni gynllun ymarferol a chynaliadwy, a chynllun sy'n rhoi'r modd i fyfyrwyr astudio a chwblhau eu rhaglenni gradd meddygol yn y gogledd. Er y bu llawer o bwyslais ar y gogledd, mae llawer o'r heriau a wynebwn yn y gogledd hefyd yn bod mewn rhannau eraill o'r wlad, yn enwedig yn y gorllewin, ac rwyf eisiau sicrhau ein bod hefyd yn ymdrin â hynny fel rhan o gynllun cydlynol ar gyfer Cymru.
Er gwaethaf y ffigurau staff gorau erioed, rydym yn gwybod bod galw yn parhau i gynyddu. Mae hynny'n rhan o'r rheswm pam mae angen inni ddiwygio gwasanaethau iechyd a gofal. Mae angen mwy o staff arnom ni mewn proffesiynau ac arbenigeddau penodol, ond gwyddom mai dim ond rhan o'r ateb yw hynny. Mae'r ffaith bod yr heriau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd yn digwydd yng nghyd-destun y niferoedd gorau erioed o staff yn dangos hyn. Mae'n ddyletswydd arnom ni i wneud hyn nid yn unig i ddinasyddion Cymru, ond i weithlu ein GIG hefyd. Mae angen inni greu system sy'n caniatáu iddyn nhw allu darparu'r gofal gorau posibl. Dyna pam, wrth drafod ein gweithlu, na allwn ni ei wahanu o ddiwygio go iawn ac ystyrlon, gan gynnwys, wrth gwrs, yr angen am fodelau gofal newydd a ddaeth i'r amlwg yn yr arolwg seneddol.
Rhan o ddiwygiad y system yr ydym yn ymrwymedig iddi, wrth gwrs, yn benodol o safbwynt y gweithlu, yw sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae hwn yn newid mawr a sylweddol. Mae'n dangos ymrwymiad y Llywodraeth hon i ymdrin â'n gwasanaethau iechyd mewn ffordd newydd, amlddisgyblaethol. Nid dim ond newid strwythurol yw AaGIC. Mae'n ffordd newydd, strategol o roi sylw i ddyfodol tymor hir y gweithlu iechyd. Roeddwn yn falch bod yr arolwg seneddol diweddar yn cydnabod, mewn nifer o ffyrdd arwyddocaol, sut y gellid manteisio ar greu AaGIG i gyflawni'r weledigaeth o gael iechyd a gofal di-dor yng Nghymru. Adnabu'r adolygiad hefyd y cyfle i AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru arwain y ffordd ar gyfer partneriaeth ar draws y system gofal ac iechyd cymdeithasol. Disgwyliaf i'r ddau gorff hynny weithio fel un i ymrafael â llawer o'r heriau fydd yn wynebu ein gweithlu gofal yn y blynyddoedd i ddod.
Fel pob un o weithluoedd y sector cyhoeddus, mae staff GIG Cymru wedi dioddef dan law cyni Llywodraeth y DU. Dyna pam yr ydym ni wedi galw dro ar ôl tro ar i Lywodraeth y DU roi terfyn ar y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus a rhoi codiad cyflog haeddiannol i weithwyr ledled y DU, a'n barn o hyd yw bod yn rhaid i'r codiad cyflog gael ei ariannu yn llawn gan Lywodraeth y DU. Un o'r cryfderau yng Nghymru yw ein hymrwymiad i bartneriaeth gymdeithasol a chydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, y GIG a'r undebau llafur. Mae'r cryfder hwn yn rhywbeth y byddwn yn adeiladu arno wrth symud ymlaen unwaith y byddwn wedi derbyn argymhellion y corff adolygu cyflog ym mis Mai i gytuno ar ddyfarniad cyflog teg a fforddiadwy.
Mae ein GIG yn edrych ymlaen at ei ben-blwydd yn 70 eleni. Mae'n dal yn gyflawniad gwirioneddol ragorol o ewyllys gwleidyddol a gwerthoedd cymunedol i greu a chynnal ein gwasanaeth iechyd gwladol. Stori ein staff yw'r GIG yr ydym yn ei ddathlu, wrth gwrs: pobl sy'n hannu o bob cymuned ac yn dod o bob cwr o'r byd. Rwy'n hynod falch o'r bobl sy'n ffurfio ein gwasanaeth iechyd gwladol ac edrychaf ymlaen at barhau i'w gwasanaethu wrth i ni ailgynllunio dyfodol iechyd yma yng Nghymru.