Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 6 Mawrth 2018.
Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiynau. Rydych chi'n iawn am y sgwrs band 6; rwy'n eich cofio mewn swyddogaeth wahanol pan ddechreuodd y sgyrsiau hynny, ac rwy'n gweld eich bod yn gwisgo porffor Unsain a'r swffragétiaid heddiw yn ogystal. Rwy'n cydnabod bod a wnelo hyn ag ewyllys da ac ymroddiad y staff. Mae'n rhan reolaidd o beth sy'n cadw'r gwasanaeth i fynd, oherwydd nid yw staff y GIG yn gweithio i lythyren eu disgrifiad swydd; maent yn mynd y tu hwnt i hynny yn rheolaidd. Pe byddai hynny'n dod i ben, yna ni fyddai rhannau helaeth o'n gwasanaeth yn gweithio yn y ffordd y maent ar hyn o bryd.
Ynglŷn â'r pwynt am y drafodaeth negyddol yn gyhoeddus a gwleidyddol, mae yn effeithio ar staff. Cofiaf gyfarfod, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog iechyd ar y pryd, â pharafeddygon, ac roeddent yn arbennig o ddigalon am y ffordd yr oeddent yn teimlo y siaradwyd amdanynt. Nid oeddent yn teimlo mai'r Llywodraeth oedd yn cael ei thrafod bob mis pan gyhoeddwyd amseroedd ymateb ambiwlans, ac roedd yn effeithio ar eu morâl mewn ffordd real a sylweddol. Mae a wnelo hyn yn rhannol â'r drafodaeth gyhoeddus ehangach ac effaith hynny ar y gweithlu presennol, ond hefyd, o bosibl, y gweithlu yn y dyfodol, oherwydd mae rhai pobl sy'n dewis peidio â dilyn gyrfa mewn meddygaeth neu yn y gwasanaeth iechyd oherwydd y ffordd y siaredir yn rheolaidd am y GIG. Maent yn gweld hynny ar ychydig dudalennau cyntaf papurau newydd yn rheolaidd—a pha mor bell a pha mor gyflym y mae'r newyddion negyddol yn teithio am y gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, dyna pam rwy'n ceisio manteisio ar bob cyfle i ddiolch ac i ganmol staff y GIG am eu gwaith.
O ran eich pwynt am y cap cyflog, rwy'n gwybod bod hynny'n bwysig hefyd, ac mae'n gysylltiedig yn rhannol â'r gwerth y mae pobl yn teimlo a roddir arnynt yn ogystal. Ar ôl gweld y cap cyflog yn parhau ar 1 y cant i athrawon, ac ar ôl gweld y cap cyflog yn parhau ar gyfer gweithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus eraill, bydd yr hyn sy'n digwydd nesaf gydag adroddiadau'r corff adolygu cyflogau a'r telerau ar gyfer cynnig unrhyw godiad cyflog, yn bwysig iawn i weithlu heddiw ac yfory hefyd. Rwy'n mawr obeithio bod Llywodraeth y DU yn cydnabod eu cyfrifoldebau ac yn gwneud y peth iawn drwy roi codiad cyflog gweddus, a'i ariannu'n llawn.
Ynglŷn â'ch sylw am les staff, rwy'n gyfarwydd iawn â hyn. Ar gyfer y staff hynny sy'n gweithio'n galed iawn, ni allwch ddal ati, ar 100 milltir yr awr bob dydd, oherwydd ar ryw bwynt mae pobl yn y pen draw yn torri. Felly, mae angen iddynt gael amser i adfer a'r lle i wneud hynny. Dyna pam fod gennym ni delerau ac amodau gweddus ar gyfer staff y GIG, ond dyna hefyd pam ei bod hi'n bwysig edrych eto ar yr hyn a ddywedodd yr arolwg seneddol am les staff. Rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol ddiddorol eu cynnig am y pwyslais y dylem ni ei roi ar les ein staff a sut y cawn nhw eu trin a'u rheoli, ac, mewn gwirionedd, sut maen nhw'n teimlo wedi eu grymuso yng ngwir ystyr y gair i wneud dewisiadau ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth oherwydd mae hynny'n bwysig hefyd. Felly, mae amrywiaeth o bethau.
Daw hyn yn ôl at fy mhwynt am y GIG fel cyflogwr, yn cyflogi dros 90,000 o unigolion yn y wlad, ac mae angen iddo wneud yn siŵr ei fod yn gyflogwr da ac edrych yn feirniadol ar ei hun a'r ffordd y mae'n trin ei holl staff ac yn gallu adnabod cyfleoedd ar gyfer gwella. Nid wyf erioed wedi dweud bod y GIG yn gyflogwr perffaith oherwydd nid yw, ac mae hynny'n rhywbeth y bydd angen i ni roi ystyriaeth barhaus iddo ac a fydd yn bendant yn ffurfio rhan o'n hymateb i'r adolygiad seneddol.