Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 6 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i gynnig y gwelliant yn enw Plaid Cymru? A gaf i ddiolch i brif arolygydd Ei Mawrhydi dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru—i roi'r teitl llawn—am yr adroddiad blynyddol sydd yn sicr yn cyfrannu yn helaeth at ein dealltwriaeth ni o'r sefyllfa? Mae e, wrth gwrs, yn rhywbeth rydym ni'n rhoi pwys arno fe ac yn ei werthfawrogi'n fawr iawn. Rwyf hefyd yn ategu cydnabyddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet o'r gwaith aruthrol sydd yn digwydd yn y maes ymhlith y sector, a hynny mewn amgylchiadau anodd—amgylchiadau sydd yn mynd yn anos, hefyd, oherwydd y cyfyngiadau ariannol sydd, wrth gwrs, wedi dod yn real drwy gyllidebau nifer o'r awdurdodau lleol dros yr wythnosau diwethaf yma. Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni yn cydnabod y realiti yna i'r rhai sydd yn gweithio ar y ffas lo.
Rwy’n meddwl bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi rhoi crynodeb digon teg inni o’r sefyllfa. Mae yna elfennau positif, ac mi oedd hi’n iawn i gyfeirio atyn nhw, ac yn enwedig y ffocws yma ar y diwylliant yma sydd yn dod yn ei flaen nawr o safbwynt mwy o bwyslais ar hunanwella a chydweithio rhwng ysgolion. Er, efallai, mai rhywbeth sydd mewn cyflwr o egino yw hynny, mae e’n sicr yn ein symud ni i’r cyfeiriad y byddem ni'n dymuno mynd iddo fe.