8. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2016-17

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:06, 6 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, rwy’n agor y ddadl hon heddiw drwy ddiolch i Meilyr Rowlands am ei drydydd adroddiad blynyddol fel prif arolygydd addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Yn ogystal â darparu tystiolaeth ar berfformiad a safonau, bydd adroddiad y prif arolygydd yn llywio datblygiad polisi ac yn ysgogi gwelliannau i addysg. Mae adroddiad blynyddol Estyn 2016-17 yn edrych ar gynnydd dros y saith mlynedd diwethaf, yn ôl at 2010, pan ddechreuodd cylch arolygu presennol Estyn, a chanfyddiadau arolygu’r sectorau. Rwy’n croesawu’r dull hirdymor hwn. Mae'n galonogol gweld mai’r duedd fwyaf dros y saith mlynedd diwethaf oedd symudiad tuag at ddiwylliant o hunanwella, ac mae hyn yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol i mi ac i'r Llywodraeth.

Mae'r adroddiad yn dangos mwy o gydweithredu rhwng ysgolion, yn enwedig yn y ffordd y datblygir y cwricwlwm newydd. Rydym yn cefnogi ysgolion i gydweithio ac i chwarae rhan lawn mewn system hunanwella, ac mae’r ymdrech hon yn cael ei hwyluso drwy'r consortia addysgol rhanbarthol. Rwy’n croesawu’r canfyddiadau sy'n dangos bod llawer o gryfderau’n bodoli mewn lleoliadau meithrin, mewn ysgolion arbennig a gynhelir ac mewn colegau addysg bellach. Mae ansawdd yr addysg yn dda neu'n well yn y rhan fwyaf o achosion, a bu cynnydd parhaus o ran darpariaeth y blynyddoedd cynnar, llythrennedd a rhifedd, ymddygiad a phresenoldeb a pherfformiad dysgwyr dan anfantais.

Rwy’n falch o weld, rhwng 2010 a 2017, y cafwyd gwelliannau hefyd i berfformiad ysgolion cynradd, yn benodol bechgyn a’r disgyblion hynny sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae'n galonogol bod ysgolion a lleoliadau wedi ymrwymo i arfer da yn y cyfnod sylfaen. Mae plant yn gwneud cynnydd da ac yn dangos mwy o gymhelliant a mwynhad o ddysgu mewn lleoliadau sy’n gwneud hyn yn iawn. Rwy’n nodi, fodd bynnag, fod cymhwyso’r cyfnod sylfaen wedi bod yn anghyson. Rwy’n cydnabod bod angen gwneud mwy i sefydlu arferion cyson ledled Cymru ac i sicrhau bod y fframwaith cywir yn bodoli i gefnogi addysgu a dysgu effeithiol drwy addysgeg y cyfnod sylfaen. Y llynedd, cyhoeddais ddatblygiad rhwydwaith rhagoriaeth y cyfnod sylfaen, a fydd yn bennaf yn cynorthwyo gyda'r gwaith o rannu arferion effeithiol ac yn gweithio'n agos gyda rhwydweithiau rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg.

Dirprwy Lywydd, mae'n galonogol bod gofalu am les disgyblion, gofal, cymorth ac arweiniad, a'r amgylchedd dysgu yn nodweddion cryf yn ein system addysg. Rydym yn gwybod bod cysylltiad cryf rhwng lles a deilliannau addysgol, a bod plant sydd â lefelau uwch o les emosiynol, ymddygiadol, cymdeithasol ac ysgol, ar gyfartaledd, yn cyflawni at lefelau uwch ac yn dangos mwy o ddiddordeb yn eu haddysg.

Rwy’n nodi canfyddiadau'r adroddiad bod saith o bob 10 ysgol gynradd a gafodd ei harolygu eleni’n dda neu'n rhagorol, sy’n debyg i'r llynedd. Er bod hyn yn gadarnhaol, ac rwy'n cydnabod ymroddiad a gwaith caled ein hysgolion i gyflawni hyn, mae'n amlwg bod angen gwneud mwy. Mae hanner yr ysgolion uwchradd a gafodd eu harolygu’n dda neu'n rhagorol, sy’n welliant ar y llynedd. Rwyf hefyd yn falch o weld canfyddiadau'r adroddiad bod darparwyr da a rhagorol ym mhob sector, gan gynnwys mewn ardaloedd o dlodi cymharol. Rydym wedi ymrwymo i greu system addysg gynhwysol ar gyfer pob dysgwr, waeth beth fo'i anghenion, i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cael addysg o safon uchel. Mae'r adroddiad yn glir ein bod yn gwneud cynnydd, er fy mod yn credu, Dirprwy Lywydd, fod gormod o amrywioldeb o hyd mewn rhai sectorau a bod heriau’n dal i fodoli o ran codi safonau rhifedd, codi safonau Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, gwella cynnydd disgyblion o ran sgiliau digidol, a pharhau i leihau'r bwlch cyrhaeddiad.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn dangos bod llawer mwy o enghreifftiau erbyn hyn o ysgolion yn cydweithio i wella agweddau ar eu darpariaeth, fel prosiectau llythrennedd a rhifedd, gwella addysgu a datblygu arweinyddiaeth, a fydd, rwy’n credu, i gyd yn helpu i leihau amrywioldeb yn y system. Bellach, ceir dull mwy systematig o gynllunio cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio ac ymarfer eu rhifedd ar draws y cwricwlwm, ers i ysgolion roi’r fframwaith llythrennedd a rhifedd cenedlaethol ar waith.

Mae safonau'r Gymraeg mewn llawer o ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg yn gwella; cynyddodd y niferoedd a enillodd gymwysterau Cymraeg ar ddiwedd cyfnod allweddol 4 dros 12 pwynt canran rhwng 2010 a 2016. Fodd bynnag, mae rhagair y prif arolygydd yn nodi bod rhai ysgolion yn canolbwyntio gormod o lawer ar dechneg arholiad yn hytrach nag ar ddarparu addysg eang, ac mae hyn oherwydd bod system atebolrwydd yr ysgolion uwchradd yn gysylltiedig â chanlyniadau arholiadau allanol, ac rwy’n cydnabod hyn. Rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid i ddatblygu fframwaith gwerthuso newydd a model newydd o atebolrwydd. Byddwn yn sefydlu mecanweithiau adeiladol ar gyfer gwerthuso ac atebolrwydd i atgyfnerthu dibenion diwygio ac alinio systemau trefniadau cwricwlwm, asesu ac atebolrwydd.

Rwy’n nodi, yn 2016-17, fod nifer yr hyfforddeion ar raglenni addysg gychwynnol i athrawon ôl-raddedig ac israddedig wedi methu â chyrraedd y targedau niferoedd. Roedd y niferoedd ar raglenni cynradd tua 90 y cant o'r targed, a dim ond 66 y cant o'r targed gafodd eu denu at raglenni uwchradd. Felly, rwyf wedi sefydlu bwrdd cynghori newydd ar gyfer recriwtio a chadw athrawon, a fydd yn ystyried y materion hyn a sut y gallwn gefnogi gweithlu addysg o safon uchel, sy’n gallu bodloni gofynion y cwricwlwm a diwygio addysg ehangach. Gadewch imi fod yn glir: mae ein hathrawon yn gwbl ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol. Mae proffesiwn sy'n cydweithio’n dysgu drwy’r amser ac, felly, yn codi safonau drwy’r amser. Mae'n glir o'r adroddiad bod y polisïau yr ydym wedi eu rhoi ar waith yn helpu i ysgogi gwelliant, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn cynnal momentwm i sicrhau datblygiadau pellach a mwy cyson ar draws ein system addysg.

Bydd adroddiad Estyn yn chwarae rhan allweddol wrth dynnu sylw at feysydd sydd angen eu gwella a helpu i roi ein diwygiadau pellgyrhaeddol ar waith. Rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod ein cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg yn cael ei rhoi ar waith yn iawn, i godi safonau a helpu pob dysgwr, beth bynnag ei gefndir, i wireddu ei botensial. Dirprwy Lywydd, rwy’n ddiolchgar i'r holl athrawon, arweinwyr a rheolwyr ysgolion ledled y sector am eu cyfraniadau. Rydym i gyd yn rhannu'r un uchelgais ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc: system addysg ragorol. Felly, yr oll sy’n weddill imi yw diolch i Meilyr Rowlands a'i dîm am y gwaith a wnaed i gynhyrchu'r adroddiad blynyddol hwn. Diolch yn fawr.