Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 6 Mawrth 2018.
Diolch, Llywydd. Rwy’n mynd i geisio rhoi sylw i gynifer o'r sylwadau a'r cwestiynau a godwyd ag sy'n bosibl yn yr amser a ganiateir.
Rwy’n meddwl mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig, Llyr, yw bod y prif arolygydd yn cydnabod bod newid sylweddol yn niwylliant addysg yng Nghymru. Rhaid inni ddibynnu ar y bobl hynny ar lawr gwlad i wneud y newidiadau sydd eu hangen. P'un a ydych chi'n sefyll yn y safle hwn ac yn dweud y drefn, fel y gwnaeth rhai yn y gorffennol, ynteu’n sefyll yn y safle hwn ac yn ceisio cymell a darbwyllo a chefnogi, mae'n rhaid i'r system fod eisiau hyn drosti ei hun. Y peth sy'n rhoi gobaith i mi bod pethau'n gwella yw fy mod yn credu bod y system eisiau hyn drosti ei hun, a bod ymdeimlad newydd o obaith, ymrwymiad a phroffesiynoldeb i sbarduno newid. I mi, dyna’r rhan rwy’n gweld Estyn yn ei gydnabod, ac mae hynny'n hollbwysig i fynd ymlaen.
Nawr, mae canfyddiadau'r cyfnod sylfaen yn peri pryder mawr imi. Lle mae pobl yn ei gael, mae'n darparu’n dda iawn ac yn gwneud gwahaniaeth gwych i’r plant hynny, ond mae gormod o ysgolion yn dal i dueddu i ffurfioli dysgu yn rhy fuan ym mlwyddyn 1 a blwyddyn 2 a throi’n ôl at hen ffyrdd o ddarparu addysg. Dyna pam y gwnes i, y llynedd, cyn imi hyd yn oed weld y dystiolaeth hon, gydnabod bod mwy i'w wneud yn y cyfnod sylfaen, ac rydym yn sefydlu ein rhwydwaith cenedlaethol o ragoriaeth yn y sector penodol hwn. Roedd hwnnw i fod i gael ei lansio'n ffurfiol mewn ysgol ddydd Gwener diwethaf, ac ni wnaethom ni, wrth gwrs, allu gwneud hynny’n ffurfiol, ond nid yw hynny’n golygu nad oes llawer o waith yn cael ei wneud i adeiladu’r rhwydwaith hwnnw, a byddwn yn ei lansio'n ffurfiol yn nes ymlaen y mis hwn.
Unwaith eto, gyda chynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn fyw iddo ac yn effro iddo, a dyna pam, yn gynnar yn ystod y Llywodraeth hon, y gofynnwyd i Aled Roberts ddod i mewn i adolygu cadernid cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn annibynnol, ac mae gwaith yn digwydd yn y maes hwnnw.
Mae adroddiad yr arolygydd yn cydnabod gwelliannau, o ran ansawdd ein haddysg gychwynnol i athrawon, ond mae mwy i’w wneud—dyna, unwaith eto, pam yr ydym ni wedi sefydlu’r panel newydd a pham mae gennym gymhellion recriwtio newydd, yn arbennig i’r rheini sy'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym ni'n parhau i edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud i wneud y proffesiwn mor ddeniadol ag y gall fod.
Darren, gwnaethoch chi sôn am yr adolygiad o Estyn. Nid fy adolygiad i o Estyn ydyw—adolygiad Estyn o Estyn ydyw, er fy mod yn croesawu’n fawr iawn y ffaith eu bod wedi bod mor ddoeth â gofyn i Graham Donaldson edrych ar p'un a fydd y gyfundrefn bresennol yn addas i'r diben yn y dyfodol. Rwyf ar ddeall y bydd Graham Donaldson yn llunio adroddiad yn nes ymlaen y gwanwyn hwn. Yn amlwg, mater i Estyn fydd ei argymhellion, ond, yn amlwg, rwy’n cadw llygad gofalus ar yr amgylchiad hwn.
Nawr, dydw i ddim yn osgoi’r ffaith bod amgylchiadau ariannol heriol yn wynebu ein system ysgolion, ond rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud nad yw'n bosibl gwneud cymariaethau uniongyrchol. Rwy’n gwybod, oherwydd dyna oedd fy hoff dric pan oeddwn i'n arfer eistedd draw yn y fan yna ac yn gofyn i'r Prif Weinidog yn rheolaidd am y mater hwn. Ond yna, pan ddaeth cyhoeddiad gan y prif ystadegydd, yn annibynnol ar y Llywodraeth, yn dweud, ‘A dweud y gwir, dydy hi ddim yn deg gwneud hyn mwyach’, roedd rhaid i mi, hyd yn oed, roi’r gorau iddi. Ond rwy’n cydnabod bod yr amgylchiadau hyn yn heriol i’n hysgolion, a dyna pam yr wyf i'n defnyddio pob cyfle i gael arian i'r rheng flaen. Dyna pam yr ydym ni wedi darparu’r £14 miliwn i awdurdodau lleol i’w roi i’w hysgolion i ymdrin â materion yn ymwneud â gwaith atgyweirio a chostau a gwaith cynnal a chadw ar raddfa fach, oherwydd dydw i ddim eisiau i’r arian hwnnw gael ei wario ar hynny pan allai gael ei wario ar addysgu a dysgu.
Rwy’n cydnabod bod heriau o ran y grant gwella addysg, a dyna pam, yn y flwyddyn ariannol newydd, ar ôl trafodaethau gyda'r Ysgrifennydd cyllid, yr ydym ni'n cydnabod y bydd rhai o'r newidiadau wedi peri anfantais arbennig i rai awdurdodau lleol, a dyna pam y byddwn yn darparu £5 miliwn ychwanegol ar gyfer hynny hefyd. Byddaf yn cymryd pob cyfle i ddarparu arian i'r rheng flaen; mae’r Gweinidog cyllid yn gwybod hynny’n iawn.
O ran ITE, rwyf wedi ymweld â phob darparwr ITE ers y Nadolig i weld drosof fy hun beth y maent yn ei wneud ar hyn o bryd ac i’w herio ar eu parodrwydd am y gyfundrefn newydd. Mae’r broses honno’n mynd rhagddi ac nid wyf yn rhan o'r broses honno ar hyn o bryd; mae’n rhaid i hynny fod yn annibynnol arnaf fi. Ond dewch imi ddweud wrthych: fy her i brifysgolion sy’n darparu ITE yw nad dim ond mater o achredu eu cwrs yw hyn; mae'n fater o fuddsoddiad parhaus yn eu cyfadrannau addysg. Yn rhy aml, caiff hynny ei weld fel ceffyl gwaith i brifysgolion. Nid yn yr adran hon mae’r gogoniant. Nid yw fel y pynciau proffil uchel eraill. Hoffwn i gyfadrannau addysg ein prifysgolion gael y gogoniant os ydynt yn cynnig ITE. Hoffwn i weld mwy o brifysgolion yng Nghymru yn y maes hwn yn cyflwyno ymchwil, er enghraifft, ac yn ymgeisio am grantiau fel y gallwn adeiladu capasiti ymchwil addysg yng Nghymru. Dyna yw fy her pan fyddaf yn ymweld â nhw. Nid dim ond mater o achrediad yw hyn; mae gwella cryfder ein prifysgolion yn y sector hwn hefyd yn bwysig iawn.
Byddwn yn cyflwyno dulliau tracio fel rhan o'n trefn atebolrwydd ar gyfer gwaith ôl-16. Mae angen inni wybod i ble mae’r plant hynny’n mynd, a bydd hynny'n rhan o'r gwaith yr ydym yn ei wneud i gael mwy o bwyslais, a dweud y gwir, ar ddeilliannau ar lefel ôl-16, rhywbeth nad yw wedi bod yn arbennig o gryf yn y gorffennol. Yn y gorffennol, roedd pobl, er enghraifft, a oedd yn gwneud safon uwch yn cael eu gweld, efallai, fel lleiafrif a oedd yn gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain. Gyda chynifer o blant yn gwneud safon uwch heddiw, nid yw hynny'n ddigon da. Mae angen llawer mwy o bwyslais.
Lynne, ni all unrhyw system addysg ragori ar ansawdd yr athrawon sy'n gweithio oddi mewn iddi, felly mae dysgu proffesiynol parhaus yn gwbl allweddol. Ac rwy’n cydnabod bod yr arolygydd wedi dweud bod rhywfaint o welliant wedi'i wneud, ond mae angen gwneud mwy.
A Mark Reckless, mae Estyn yn annibynnol arnaf fi, fel y byddem yn disgwyl iddo fod. Dydyn nhw ddim yn ymatal, fel yr ydym ni wedi’i weld; os ydym ni'n gwneud yn dda, maen nhw'n dweud wrthym, os nad ydym yn gwneud yn dda, dydyn nhw ddim, a, sut y maen nhw'n barnu eu trefn, maen nhw'n ymgynghori â ni am y peth, ond mater iddyn nhw yw hynny. Nid wyf yn cytuno â'r ffaith y bydd cyhoeddi tablau cynghrair yn helpu ein system addysg i wella. Mae'r adroddiad hwn yn dweud ei fod yn ymwneud â gwaith ar y cyd a chefnogi gweithio ysgol-i-ysgol. Chewch chi mo hynny os yw ysgolion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Mae'n tanseilio’r ethos yr ydym ni'n ceisio ei ddatblygu yn ein system addysg o system gydweithredol sy’n hunanwella.