Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 6 Mawrth 2018.
Yr eitem nesaf felly yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn cael ei drin fel Bil brys y Llywodraeth a chynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, rydw i'n cynnig bod y ddau gynnig a ganlyn o dan eitemau 9 a 10 yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes.