Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 1:46, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Felly, byddwch yn darparu'r £7.5 miliwn hwnnw, fel yr awgrymoch, i dri awdurdod lleol yn bennaf, sy'n digwydd bod yn awdurdodau Llafur yn ne Cymru, gydag ond ychydig iawn ar ôl ar gyfer gweddill y wlad. Y gwir amdani yw bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnwys pobl ifanc sydd angen y math hwn o gefnogaeth. Felly, gofynnaf i chi unwaith eto: pa bryd y byddwch yn sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru, boed yng ngogledd Cymru, canolbarth Cymru, gorllewin Cymru neu dde Cymru, er mwyn sicrhau y gallant fodloni nid yn unig anghenion y gymuned Sipsiwn/Teithwyr, ond cymunedau lleiafrifoedd ethnig eraill a all fod angen cefnogaeth ychwanegol gyda'u dysgu?