Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 7 Mawrth 2018.
Wel, Bethan, wrth ymgymryd â'u cyfrifoldebau trefniadaeth ysgolion, mae'n rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r cod trefniadaeth ysgolion, ac mae'n rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau. Un o'r ffactorau hynny yw buddiannau dysgwyr. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cynnal ymgynghoriad diweddar ar y cod i weld lle y gellir ei gryfhau. Pan fo'r cynigion yn cynnwys cau unrhyw ysgol, sy'n gallu bod yn heriol iawn, ac yn emosiynol iawn, mae'n rhaid i'r ddogfen ymgynghori ddangos effaith y cynigion ar unigolion, ac yn wir ar y gymuned, ac mae'n rhaid cynnal asesiad o'r effaith honno ar y gymuned.