Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 7 Mawrth 2018.
Fel y gwyddoch, rydych wedi ailddosbarthu'r grant gwella addysg—elfen y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig ohono—i mewn i'r grant cynnal refeniw ar gyfer awdurdodau lleol, ac maent yn honni na allant ddod o hyd i unrhyw arwydd ohono o fewn llinellau'r cyllidebau hynny a roddwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru. Maent yn credu bod oddeutu £13 miliwn wedi mynd ar goll o'r dyraniad addysg a gawsant gan Lywodraeth Cymru a bod hynny'n cael effaith sylweddol ar eu gallu i ddiwallu anghenion addysgol y gymuned Sipsi/Roma/Teithwyr, ac yn wir, cymunedau lleiafrifoedd ethnig eraill sydd angen cymorth penodol ac ychwanegol. Beth a wnewch i leihau eu pryderon?