Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 7 Mawrth 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o amcanion Deddf cenedlaethau'r dyfodol yw sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i gyflawni eu llawn botensial, beth bynnag yw eu cefndir. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn cytuno â hynny. Mae'r bwlch yn y canlyniadau yno o hyd, fodd bynnag, rhwng plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae nifer o deuluoedd yn byw ychydig uwchlaw'r ffin tlodi ond heb gyrraedd y categori y dylent ei gyrraedd. A ydych yn hyderus fod y meini prawf presennol yn ddigon eang i gyrraedd pob un o'r plant hyn sy'n dioddef yn yr amgylchiadau hyn, ac os nad ydynt, beth rydych yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod rhwyd ddiogelwch well i'w chael?