Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 7 Mawrth 2018.
Nid wyf yn awyddus i achub y blaen ar y trafodaethau terfynol a'r penderfyniadau y byddaf yn eu gwneud mewn perthynas â'r adroddiad hwnnw. Ac rwyf wedi rhoi ymrwymiad yma y prynhawn yma, Michelle, y byddaf, ar ôl gwneud hynny, yn dychwelyd i'r Siambr â datganiad llawn ar sut rydym yn bwriadu datblygu polisi yn y maes hwn.
Mae'n rhaid imi ddweud, nid ydym yn caniatáu i rieni i dynnu eu plant allan o wersi mathemateg neu wersi Saesneg, ac yn ôl yr hyn a glywaf gan blant a phobl ifanc, maent yn teimlo bod hon yn agwedd bwysig iawn ar eu haddysg, ac mae angen inni sicrhau ei bod yn iawn ar eu cyfer. Wrth gwrs, mae'n rhaid cyflawni hynny mewn ffordd sy'n addas i oedran ac mewn ffordd sy'n hygyrch, hyd yn oed i'n plant ieuengaf. Ac nid wyf yn credu bod unrhyw blentyn yn rhy ifanc i ddechrau siarad am gydberthynas, bod yn ddiogel, cydsyniad a beth yw ystyr hynny.